You are in :

Bil Awtisiaeth (Cymru) drafft

0%

1. Cyflwyniad
Tudalen 1 o 11

 
Fy enw i ydy Paul Davies. Rwy’n Aelod Cynulliad (AC) Preseli Sir Benfro.

Dywedodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y gallwn geisio cael deddf awtistiaeth newydd i Gymru. Bil Awtistiaeth (Cymru) fydd enw'r ddeddf yma.

Er mwyn fy helpu i ysgrifennu’r Bil Awtistiaeth (Cymru) fe wnes i ofyn i bobl am eu syniadau. Fe wnes i ofyn beth roedden nhw’n feddwl ddylai fod ynddo. Mae eu hymatebion wedi'u rhestru fel ymatebion i'r ymgynghoriad cyntaf are y Bil Awtistiaeth.

Byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau ar gyfer defnyddio'r Bil.  Mae gan Lywodraeth gyfredol Cymru eisoes Gynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, ond byddai'r Bil yn sicrhau y byddai strategaeth awtistiaeth bob amser, hyd yn oed os byddai'r llywodraeth yn newid.
 
Fe wnes i ddefnyddio beth roedd pobl wedi’i ddweud i ysgrifennu Bil drafft. Nawr fe hoffwn i chi ddarllen y drafft cyntaf. A dweud beth rydych yn ei feddwl amdano.
 
Gallwch ddweud wrthyf beth ydych chi'n ei feddwl am unrhyw ran ohono (dyma’r olaf o’r 19 cwestiwn yn yr arolwg hwn). Ond mae rhai pethau y byddwn wir yn hoffi clywed eich barn yn eu cylch. Rwyf wedi ysgrifennu ambell gwestiwn am y pethau hyn. Gallwch ateb cymaint o’r cwestiynau ag yr hoffech.

Am fanylion llawn ynghylch sut y defnyddir y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi, darllenwch bolisi preifatrwydd Bil Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru.