Iaith:

Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol

 
Cyflwyniad

Cafodd Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Fyw'n Annibynnol ei gyhoeddi yn 2013. Mae'r Fframwaith hwn yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd ati i sicrhau bod Cymru'n lle gwell i bobl anabl, fel bod ganddynt yr un cyfleoedd â phawb arall a'u bod yn gallu byw eu bywydau yn ôl eu dewis.

Mae'r Fframwaith yn cynnwys rhestr o gamau gweithredu, ac mae nifer ohonynt wedi'u cwblhau neu angen eu diweddaru. Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag byw'n annibynnol sydd bwysicaf i bobl anabl.

Dywedwch wrthym am eich profiadau. 

Sut byddwn yn trin yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu

Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei hanfon atom yn cael ei gweld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â materion Cydraddoldeb. Bydd unrhyw wybodaeth a gawn yn cael ei chadw'n ddiogel a bydd ond yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu'r cynlluniau newydd. Ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion marchnata neu fasnachol. Ni fyddwn yn nodi eich enw mewn unrhyw grynodebau neu adroddiadau a lunnir ar gyfer y gwaith hwn. 

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei phrosesu a'i rheoli yn unol â'n rhwymedigaethau a'n dyletswyddau o dan:
  • Deddf Diogelu Data 1998;
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004; a
  • Phob cyfraith arall yn ymwneud â mynediad at wybodaeth.
Gall yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich ymateb, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai'n galluogi eich adnabod chi neu rywun arall, fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, efallai bydd yn rhaid i ni ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 31 Mai 2017.

Cynhyrchwyd fideo yn Iaith Arwyddion Prydain i gyd-fynd â’r arolwg. Gwyliwch y fideo.

A ydych yn ymateb:

 

Os ydych yn ymateb ar eich rhan chi eich hun

i. A ydych yn eich ystyried eich hun yn anabl?

 

ii. A ydych yn darparu gofal a/neu gymorth ar gyfer unrhyw un sy'n anabl? 

 

2. A ydych wedi clywed am y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol o'r blaen?

 
3. Ydych chi'n credu bod pethau wedi gwella ar gyfer pobl anabl yng Nghymru yn unrhyw un o'r meysydd canlynol yn y 3 blynedd diwethaf?

Gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth

 

Tai

 

Gofal a chymorth personol (ee Cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol, Taliadau Uniongyrchol ac ati)

 

Technoleg sy'n canolbwyntio ar unigolion (ee unrhyw ddyfais, teclyn neu dechnoleg a ddyluniwyd i gefnogi pobl i fod yn annibynnol neu eu diogelu, megis dyfeisiau cyfathrebu neu symudedd (gan gynnwys cadeiriau olwyn), technoleg gynorthwyol i ddefnyddio cyfrifiaduron, apiau ffonau symudol ac ati)

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

 

Mynediad i adeiladau a lleoedd 

 

Cyflogaeth

 

4. Hoffem gael gwybod am unrhyw anawsterau neu rwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu nawr. 

Dywedwch wrthym ym mha feysydd yr ydych chi (neu unrhyw un rydych yn darparu gofal neu gymorth iddynt neu’n gweithio gyda nhw) wedi wynebu anawsterau neu rwystrau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r rhestr ganlynol yn cwmpasu rhai o'r meysydd lle gwyddom fod pobl anabl yn wynebu rhwystrau. Ticiwch bob un sy'n berthnasol.
 

 

5. A oes unrhyw feysydd eraill nad ydynt ar y rhestr lle'r ydych chi (neu unrhyw un rydych yn darparu gofal neu gymorth iddynt neu’n gweithio gyda nhw) wedi wynebu anawsterau neu rwystrau yn y flwyddyn ddiwethaf?  

 

6. Byddem hefyd yn hoffi cael gwybod beth allai wneud pethau'n haws i bobl anabl. Gan droi eto at unrhyw anawsterau neu rwystrau yr ydych chi (neu unrhyw un rydych yn darparu gofal neu gymorth iddynt neu’n gweithio gyda nhw) wedi'u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf, beth y gellid ei wneud i chwalu'r rhwystrau a helpu pobl i fyw'n annibynnol?

Nodwch eich sylwadau yma:

 

7. I ba grŵp oedran ydych chi'n perthyn?

 

8. Os hoffech i ni anfon dolen atoch i'r cynllun gweithredu newydd pan fydd wedi'i gyhoeddi, nodwch gyfeiriad e-bost isod. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unig ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw un arall. 

 
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at: equalityandprosperitymailbox@cymru.gsi.gov.uk