Arolwg Sbot-lite ar Amgueddfeydd 2016
Arolwg cynhwysfawr o amgueddfeydd Cymru yw Sbotolau ar Amgueddfeydd a gynhaliwyd yn gyntaf yn 2006, ag arolygon dilynol yn 2011 a 2015.
Eleni, rydym yn cynnal yr arolwg gostyngedig ‘Sbot-lite’ er mwyn casglu data allweddol ystadegol gyda’r nod o sefydlu darlun cynhwysfawr a chyfredol o’r sector amgueddfeydd yng Nghymru.
Sut i gwblhau’r arolwg
- Dylai’r data a ddarperir fod ar gyfer y flwyddyn 2015, ac eithrio'r cwestiynau ariannol sy’n gofyn am wybodaeth o’r flwyddyn ariannol 2015/16 (1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth 2016).
- Gwyddom fod darparu swm union cywir yn gallu fod yn anodd, felly os nad oes gennych chi’r data cywir, rhowch eich amcangyfrif gorau os gwelwch yn dda.
- Os yr ateb i gwestiwn yw 0, a wnewch chi bennu hyn os gwelwch yn dda yn hytrach na’i adael yn wag.
- Fe allwch gadw a dychwelyd yn ôl i’r arolwg ar unrhyw bryd wrth glicio ‘Cadw a Pharhau Wedyn’ ar waelod unrhyw dudalen.
- Rydym yn awgrymu eich bod yn lawr lwytho a darllen cwestiynau’r arolwg ac yn caglu’r data gofynnol cyn cwblhau’r ffurflen ar-lein. Mae cwestiynau’r arolwg ar gael i’w lawr lwytho yma. Dylai’r arolwg gymryd llai na 15 munud i’w gwblhau.
Cwestiynau am yr arolwg
- Cynhalier yr arolwg ar ran yr isadran Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Llywodraeth Cymru a rhennir y wybodaeth â hwy. Lle y’i cyflwynir yn gyhoeddus, ni fydd amgueddfeydd yn cael eu canfod o’u gwybodaeth ariannol.
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gwblhau’r arolwg gallwch gysylltu â Karen.Willans@wales.gsi.gov.uk
Diogelu Data
Bydd y wybodaeth a roddir yn yr arolwg hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu gyda’r gwaith o gynllunio’n strategol ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru, helpu amgueddfeydd i feincnodi gydag amgueddfeydd eraill a helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar flaenoriaethau polisi. Bydd yr holl ddata yn cael ei gyhoeddi mewn amryw ffurf. Mae modd defnyddio’r wybodaeth a roddir i hyrwyddo’r prosiect ‘Sbot-lite ar Amgueddfeydd 2016’, hyrwyddo amgueddfeydd unigol neu hyrwyddo amgueddfeydd Cymru yn gyffredinol. Pe baech am unrhyw reswm yn dymuno i ni beidio â rhannu na chyhoeddi unrhyw ran o’r wybodaeth rydych chi wedi’i chyflwyno am eich amgueddfa, rhowch wybod drwy gysylltu â Karen Willans,
Karen.Willans@wales.gsi.gov.uk
Diolch ichi am gymryd yr amser i gwblhau’r ffurflen hon ac edrychwn ymlaen at rannu’r canlyniadau gyda chi.