Rydym bellach wedi cyrraedd ail ran yr ymgynghoriad i ail-siapio’r Gwasanaeth Llyfrgell ar Ynys Môn. Yn y cyfnod hwn, rydym yn cyflwyno ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer
Strategaeth Ddrafft Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn 2017 - 2022.
Cymerwch amser os gwelwch yn dda i
ddarllen y llyfryn fel bod gennych yr holl wybodaeth cyn cyflwyno eich sylwadau.
Mae angen i ni ddatblygu’r gwasanaeth er mwyn ei wneud yn fwy atyniadol i ddinasyddion. Mae angen i ni hefyd ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22/09/2017 os gwelwch yn dda. Diolch i chi am helpu i siapio dyfodol llyfrgelloedd Ynys Môn.
Cynigion ar gyfer Newid
Cynigion ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell Yn y llyfryn gwybodaeth, nodir y cynigion ar gyfer Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Ynys Môn. Caiff y llyfrgelloedd presennol eu categoreiddio’n dair haen fel a ganlyn.
Mae mwy o wybodaeth am hyn yn y llyfryn gwybodaeth.
Haen 1 - Llyfrgelloedd Ardal: Llangefni a Chaergybi
Llyfrgell a fydd ar agor ar sail amser llawn am oddeutu 40 awr yr wythnos, gyda chyflenwad cyflawn o staff a fydd yn cael eu cefnogi gan dîm proffesiynol ar sail Sir gyfan yn unol â’r patrwm cyfredol.
Haen 2 - Llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor (ar agor am oddeutu 20 awr yr wythnos) : Amlwch, Benllech, Porthaethwy
Bydd y Cyngor yn darparu oddeutu 20 awr o oriau agor gyda staff craidd. Bydd y staff rheng-flaen (lefel llyfrgell) yn cael eu cefnogi gan dîm proffesiynol ar sail Sir gyfan yn unol â’r patrwm cyfredol.
Haen 3 – Llyfrgelloedd a gefnogir gan y gymuned dan arweiniad y Cyngor (ar agor am oddeutu 10-12 awr yr wythnos) Cemaes, Biwmares, Rhosneigr, Moelfre, Niwbwrch.
Bydd y Cyngor yn darparu oddeutu 10-12 o oriau agor gyda staff craidd. Bydd y staff rheng-flaen (lefel llyfrgell) yn cael eu cefnogi gan dîm proffesiynol ar sail Sir gyfan yn unol â’r patrwm cyfredol. Fodd bynnag, yn achos y drydedd haen hon, os nad oes cefnogaeth gan y gymuned neu bartïon eraill, mae posibilrwydd y bydd y llyfrgell yn cau. Yn yr achos hwn, bydd angen ffactorau lliniarol, er enghraifft, Pwynt Cyswllt yn y gymuned neu fwy o wasanaeth gan y Llyfrgell Deithiol; bydd y ddarpariaeth hon yn cymryd i ystyriaeth fesurau Effaith ar Gydraddoldeb.
Y Gwasanaeth Teithiol a’r Gwasanaeth ar gyfer y rhai sy’n Gaeth i’w Tai
Ochr yn ochr â’r uchod, bydd adolygiad llawn o lwybrau a mannau stopio’r Gwasanaethau Teithiol a’r Gwasanaethau ar gyfer y Rhai sy’n Gaeth i’w Tai. Mae’n debygol y bydd newidiadau yn y dyfodol o ran ble y byddwn yn mynd ac yn stopio ac mae’n bosib y sefydlir modelau amgen, er enghraifft, partneriaeth gyda’r sector preifat i ddarparu elfen o’r gwasanaeth ar gyfer y rhai sy’n gaeth i’w tai.