Defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer boeleri, injans, generaduron (wrth gefn ac ar alw) a thyrbinau â mewnbwn thermol o lai na 50MW sy'n cael eu dosbarthu fel cyfarpar hylosgi canolig ac sydd hefyd:
Yn eneraduron penodedig
 mewnbwn thermol sy’n hafal i neu'n fwy nag 20MW (o ran maint) (y cyfeirir ato fel gweithgaredd 1.1 Rhan B), neu
Yn llosgi 50kg neu fwy o fiomas gwastraff yr awr (gweler y diffiniad o fiomas gwastraff) (y cyfeirir ato fel gweithgaredd 5.1 Rhan B)
Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sy'n rhan o osodiad neu safle gweithredu gwastraff newydd neu bresennol. Dylech ddefnyddio'r ffurflenni
gosodiad neu
weithrediad gwastraff perthnasol (rhain yn agor mewn tab newydd).
Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig sydd eisoes wedi’i ganiatáu o dan drwydded awdurdod lleol Rhan B. Anfonwch e-bost at
mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk (agor mewn tab newydd) os ydych eisoes yn dal trwydded awdurdod lleol Rhan B ac yr hoffech gynnwys eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig presennol.
Cyn llenwi’r ffurflen gais hon, bydd angen i chi ddarllen drwy’r canllawiau cyfarpar hylosgi canolig a generadur penodedig i sicrhau'r canlynol:
- Rydych yn gwneud cais am y drwydded gywir
- Rydych chi'n deall pa wybodaeth ategol y mae angen i chi ei chyflwyno gyda'ch cais
- Rydych wedi cwblhau'r asesiadau angenrheidiol sy'n ofynnol gan eich math o gais
- Rydych yn cynnwys y ffi gywir