Iaith:

Ymgynghoriad ynghylch newidiadau i gynlluniau pensiwn diffoddwyr tân yng Nghymru 2021

 

C1. I ba raddau y mae'r rheoliadau drafft yn adlewyrchu'r angen i drosglwyddo aelodau a ddiogelir i mewn i Gynllun 2015 ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, yn eich barn chi?  A oes unrhyw wallau neu hepgoriadau yn y drafft, yn eich barn chi?

 

C2. A oes gennych unrhyw farn ar y cynigion ynghylch cronni dwbl?

 

C3. A oes gennych unrhyw farn ar y cynigion ynghylch ymddeol oherwydd afiechyd? Yn benodol, a ydych yn cytuno y dylem ddrafftio'r rheoliadau i wneud darpariaeth ar gyfer ymddeoliadau oherwydd afiechyd sy'n digwydd cyn ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, sy’n sicrhau nad yw’r bobl yn yr amgylchiadau hynny ar eu colled o gymharu â phe byddent wedi ymddeol cyn y dyddiad hwnnw?

 

C4. A ydych yn rhagweld unrhyw anawsterau neu rwystrau wrth weithredu'r trosglwyddiad y mae'r rheoliadau yn darparu ar ei gyfer?

 

C5. Mae diddordeb gennym ddeall p'un a fydd y cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon yn cael effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Y nodweddion gwarchodedig yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ydych chi'n meddwl y bydd y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig? Os felly, pa rai a pam/pam ddim?

 

C6. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion uchod yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.  Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

C7. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.