Dewis iaith arall

Cais i newid y cwch ar drwydded i bysgota am gregyn moch (Buccinum undatum) gan ddefnyddio potiau ym mharth Cymru

 
Mae Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru gan gynnwys ardal parth Cymru sydd y tu hwnt i ffin y môr tiriogaethol i gyfeiriad y môr.

Sylwer

  1. Mae Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefn drwyddedu mewn perthynas â chychod y DU a chychod tramor sy'n pysgota am gregyn moch â chewyll ym Mharth Cymru (rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru).
     
  2. Pan fo cwch yn eiddo i fwy nag un person, mae angen un cais sy'n rhoi manylion yr holl berchnogion. Gellir rhoi copi dyblyg o drwydded i bob cydberchennog.
     
  3. Rhaid ichi sicrhau bod pob rhan o'r ffurflen yn cael ei llenwi’n gywir a’i hanfon yn ôl at Lywodraeth Cymru. Os bydd unrhyw wybodaeth ar goll, ni fydd y ffurflenni’n cael eu prosesu hyd nes i’r wybodaeth ddod i law.
     
  4. Byddwch yn cael trwydded wedi'i diweddaru ymhen 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y daw cais dilys i law.
     
  5. Ni chaiff y cwch newydd bysgota am gregyn moch ym mharth Cymru hyd nes y byddwch wedi cael y drwydded newydd.
     
  6. Ni chodir ffi am y gwasanaeth hwn.
     
  7. Mae darparu gwybodaeth ffug neu wneud datganiad ffug yn torri Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 a all arwain at gamau gorfodi.
     
  8. Cewch ragor o wybodaeth yn y canllawiau Pysgodfa cregyn moch ar LLYW.CYMRU.