Dylai canolwyr gwblhau'r ffurflen hon er mwyn cefnogi ceisiadau a wnaed ar gyfer trwydded arolwg, trwydded cadwraeth/penodol i brosiect a thrwydded datblygu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Rhaid i Ganolwyr:
  • allu gwneud sylwadau ar eu profiad o weithio â’r rhywogaethau perthnasol a’u gallu i ddefnyddio’r dulliau a’r offer a awgrymir o fewn y cais am drwydded
  • fod â chymwysterau priodol eu hunain a rhaid iddynt fod wedi dal trwydded berthnasol yn flaenorol
  • profiad o waith yr ymgeisydd sy’n gofyn am y geirda am o leiaf un tymor arolwg.
Dylid anfon y ffurflen geirda wedi’i chwblhau at yr ymgeisydd, i’w chyflwyno gyda’r cais. Os gwyddoch beth yw cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd, gellir ei anfon ymlaen iddo/iddi yn awtomatig ar ôl anfon y ffurflen hon.