Math o ymatebwr (dewiswch un o’r canlynol)
A ydych yn ymateb fel unigolyn ynteu ar ran ysgol, lleoliad neu sefydliad?
Cwestiwn 1: Pa mor ddefnyddiol yw’r egwyddorion cynnydd ar gyfer ymarferwyr addysg sy’n cynllunio a datblygu eu cwricwlwm, a sut y gellid eu gwella?
Cwestiwn 2: O ran yr egwyddorion cynnydd cyffredinol, a yw’r rhain yn glir ac yn gywir wrth nodi’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr rhwng 3 a 16 oed wneud cynnydd o ran y dysgu ar hyd y cwricwlwm cyfan?
Cwestiwn 3: O ran yr egwyddorion cynnydd penodol i bob maes dysgu a phrofiad, a yw’r rhain yn glir ac yn gywir wrth nodi beth sy’n unigryw ac yn benodol am gynnydd ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 16 oed ym mhob maes?
Cwestiwn 4: Pa mor dda y mae’r egwyddorion cyffredinol a’r egwyddorion penodol i bob maes dysgu a phrofiad yn ffurfio cyfanwaith cydlunol a chlir? A yw’r egwyddorion penodol yn cyd-fynd â’r rhai cyffredinol?
Cwestiwn 5: Pa gymorth pellach y gellid ei ddarparu i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu dull o ran cynnydd ac asesu fel rhan annatod o’u cwricwlwm, yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru?
Cwestiwn 6: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai Cod Cynnydd drafft y Cwricwlwm i Gymru yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:
i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?
Cwestiwn 7: Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid Cod Cynnydd drafft arfaethedig Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru:
i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Cwestiwn 8: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.