Pam y mae angen imi geisio caniatâd?

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoleiddio symudiad pysgod yn holl ddyfroedd mewndirol Cymru. Amcana atal ymlediad heintiau pysgod, a lleihau i’r eithaf ddifrodi pysgodfeydd neu’r amgylchedd trwy gyflwyniadau pysgod anaddas. Golyga hyn fod rhaid i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig ni cyn y cyflwynwch stociau pysgod newydd i unrhyw ddŵr mewndirol.

Mae’r ffurflen FR2 ar gyfer defnyddio offer pysgota (eraill na genwair a lein) a/neu symund pysgod o ddyfroedd mewndirol yn unig.
Rhaid i chi beidio â symud unrhyw bysgod ag offer arall na genwair a lein, cyn cael ein caniatâd ysgrifenedig ni. Gallai eu symud cyn cael caniatâd arwain at erlyn.

Os oes arnoch angen cymorth a chyngor

Cysylltwch â ni os daw arnoch angen unrhyw gymorth â’ch cais, neu gyngor cyffredinol am stocio pysgod neu reoli pysgodfeydd. Gallwch gysylltu â ni ar 0300 065 3000 neu enquiries@naturalresources wales.gov.uk, a gofyn am eich swyddog pysgodfeydd lleol.

Cofrestru eich Pysgodfa

Er Awst 2009, rhaid i berchnogion pysgodfeydd gofrestru eu pysgodfeydd â Chanolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Acwafeithrin (Cefas) o dan y Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol. Cyflwynwyd y rheoliadau er mwyn cynnal safonau uchel iechyd pysgod o fewn y DU. Nid oes ond angen ymgofrestru unwaith, ac ni chodir tâl.
Ni allwn fwrw ymlaen â’ch cais symudiad pysgod oni chofrestrwyd eich pysgodfa, a gallai hynny arwain at oedi cyn y derbyniwch eich caniatâd symudiad pysgod. Cewch ragor o wybodaeth, a ffurflen gais (RW1), yn www.efishbusiness.co.uk/registration/fisheries-registration.asp.

Yr hyn a dderbyniwch, a pha bryd

Os yw eich cais chi’n llwyddiannus, gyrrir atoch ddogfen gydsynio yn manylu’r gwaith sydd mewn golwg gennych.
Mae arnom angen 20 niwrnod ar gyfer prosesu’ch cais, ond amcanwn ei wneud mewn 10 niwrnod. Gallai gymryd rhagor os oes gan y dŵr y bwriadwch gyflwyno pysgod iddo ddynodiad cadwraeth, megis SoDdGA, oherwydd efallai y bydd arnom angen ymgynghori â chyrff eraill.
Mae a wnelo’r caniatâd ysgrifenedig yn unig â’r dyddiad, y safle a’r pysgod a nodwch ar eich ffurflen gais. Os yw unrhyw un o’r manylion yn newid, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 neu enquiries@naturalresources wales.gov.uk.