Language:

Ein haddewid rhianta corfforaethol

 
Rydw i/Rydyn ni'n cydnabod ein rhan fel rhiant yn y teulu mwyaf yng Nghymru.

Wrth lofnodi'r addewid hwn, rydw i/rydyn ni'n llwyr gefnogi egwyddorion y Siarter hon a byddaf/byddwn yn byw yn ôl yr arferion ymddygiad cyffredin.   

Byddwn yn sicrhau bod popeth rydyn ni'n ei wneud ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn cael ei ategu gan waith grymuso, cydraddoldeb, dim gwahaniaethu, cyfranogiad, ac atebolrwydd ac amddiffyn, a’i fod yn parchu, amddiffyn a hyrwyddo'n llawn eich hawliau dynol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Byddwn yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur ein llwyddiant a'n hymrwymiad i'r siarter. 

 Rwy'n/Rydyn ni'n addo:
  • Gweithio i gyflwyno cynnig gwell o help i ti a'r holl blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal er mwyn i chi ffynnu a chyrraedd eich potensial.
  • Dy helpu i gael gafael ar ein gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau ohonynt. 
  • Gweithredu er dy les di a gwneud i ti deimlo'n ddiogel ac yn iach yn ein perthynas â thi. 
  • Dy annog i fynegi barn, dymuniadau a theimladau a lle bo angen rhoi cymorth i ti i hyrwyddo'r rhain.  
  • Sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed a'i ystyried yn llawn ym mhob penderfyniad a wneir amdanat ac egluro pam gafodd penderfyniadau eu gwneud.
  • Rhoi'r adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnat, mewn ffordd rwyt ti’n ei deall.
  • Gofalu ein bod ni'n atebol i ti am y penderfyniadau rydyn ni'n eu cymryd a'r canlyniadau sy'n effeithio ar dy fywyd di.
  • Dy helpu i gyflawni’r gorau. 
  • Dy baratoi di i adael gofal a'th helpu i ffynnu'n annibynnol.
  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau rhianta corfforaethol yn ystod eu proses gynefino.

1. Sefydliad

 

2. Enw

 

3. Ebost:

 

4. Dyddiad