Iaith:

Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

 

Cwestiwn 1: Ydych chi’n meddwl y gallai model tai cydweithredol neu fodel tai a arweinir gan y gymuned helpu pobl leol i gael mynediad at dai fforddiadwy?
 

 

Cwestiwn 2: Sut all Llywodraeth Cymru annog mwy o ymwneud â’r model tai cydweithredol neu’r model tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru?

 

Cwestiwn 3: Beth yw'r heriau wrth geisio cynnal digon o fuddsoddiad a diddordeb lleol mewn mentrau cymdeithasol?

 

Cwestiwn 4: Pa gymorth neu gymhellion allai Llywodraeth Cymru eu cynnig fel bod cynllun o'r fath yn ennyn diddordeb?

 

Cwestiwn 5: I ba raddau ydych chi’n meddwl bod y Grŵp Llywio Gwerthwyr Tai yn ffordd ymarferol ac effeithiol o helpu gwerthwyr tai i chwarae eu rhan yn y gwaith o ddiogelu cymunedau Cymraeg?

 

Cwestiwn 6: Sut all gwerthwyr tai gael eu hannog neu eu cymell i fod yn rhan o'r Grŵp Llywio?

 

Cwestiwn 7: A fyddai cyfnod byr o amser i breswylwyr lleol weld eiddo a gwneud cynnig arno yn eu helpu i gael mynediad at farchnadoedd eiddo?

 

Cwestiwn 8: Beth arall allai helpu i wneud yn siŵr bod prynwyr lleol yn cael 'chwarae teg' yn y farchnad dai?

 

Cwestiwn 9: Sut all Llysgenhadon Diwylliannol ymgysylltu ar lefel gymunedol i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol a datblygu gwell dealltwriaeth o’n diwylliant, treftadaeth a’n hiaith?

 

Cwestiwn 10: Pa ffactorau penodol ddylai'r comisiwn eu hystyried o ran cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol?

 

Cwestiwn 11: Yn eich barn chi, pa heriau fydd y comisiwn yn eu hwynebu?

 

Cwestiwn 12: A oes yna unrhyw enghreifftiau, arferion neu achosion o ddiddordeb a allai helpu'r comisiwn i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar yr iaith?

 

Cwestiwn 13: Beth (arall), ynghyd â chymorth tai, y gellir ei wneud i gynorthwyo pobl leol, a phobl ifanc yn arbennig, i barhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau?

 

Cwestiwn 14: A oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill ar unrhyw un o'r cynlluniau a nodir uchod?

 

Cwestiwn 15: Pa fath o ymyraethau lleol hoffech chi eu gweld i hyrwyddo pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg, annog pobl i'w cadw ac i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei gweld yn ein cymunedau?

 

Cwestiwn 16: Beth arall ddylai gael ei ystyried fel rhan o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg?

 

Cwestiwn 17: Pa newidiadau fyddech chi’n eu gwneud i'r cynigion sydd yn y cynllun hwn er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol?

 

Cwestiwn 18: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.