Cais am drwydded i gymryd ystlumod neu amharu arnynt, neu ar gyfer niweidio, dinistrio, neu rwystro mynediad i unrhyw fan a ddefnyddir ganddynt ar gyfer bridio, llochesu neu i fod yn ddiogel.

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd

Mae'r ffurflen gais hon mewn perthynas â:


1. Trwyddedau arolwg personol (dibenion gwyddonol/addysgol) i:
Darfu ar ystlumod pan fyddant yn clwydo
Dal neu afael mewn ystlumod

2. Trwyddedau sy'n benodol i brosiect (dibenion cadwraeth/gwyddonol/addysgol) ar gyfer gwneud y canlynol:
Ddal neu afael mewn ystlumod
Modrwyo neu farcio ystlumod
Meddiannu ar ystlumod neu ddeilliadau ystlumod dros dro
Darfu ar ystlumod pan fyddant yn clwydo
Rhwystro mynediad i glwyd ystlumod, ei difrodi neu ei dinistrio
Ffotograffiaeth, gan gynnwys ffilmio

Rhaid ategu cais am drwydded sy'n benodol i brosiect gyda datganiad dull. Mae canllawiau ar lunio'ch datganiad dull ar gael ar ein gwefan. Dylai'r datganiad dull gynnwys map o'r lleoliad ar raddfa berthnasol. Byddem yn cynghori graddfa o 1:10,000 a/neu haen system gwybodaeth ddaearyddol megis Shapefile os ar gael.
Meddiant
Os dymunwch wneud cais am drwydded i gadw ystlumod mewn caethiwed yn y tymor hir neu feddu ar sbesimenau ystlumod neu ddeilliadau ystlumod, defnyddiwch y ffurflen gais ar gyfer gwneud cais am drwydded i feddu ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (bydd yn agor mewn tab newydd).
Tynnu lluniau o ystlumod

Nid oes angen trwydded i dynnu lluniau (gan gynnwys ffilmio) ystlumod os yw'r lluniau yn rhan gysylltiedig o waith arall trwyddedig ac os nad yw'n tarfu mwy ar yr ystlumod nag y mae'r gwaith trwyddedig yn tarfu arnynt. Mae ffotograffau o'r fath yn cynnwys:
  • Tynnu lluniau heb fflach (h.y. defnyddio golau naturiol neu olau artiffisial gwan megis tortsh ddomestig neu LED isel) o ystlumod yn clwydo ac o bobl yn gwneud gwaith trwyddedig yn ac yng nghyffiniau clwydi
  • Tynnu lluniau gyda fflach mewn clwydi a safleoedd gaeafu pan nad oes ystlumod yn bresennol yn unig
  • Lluniau a dynnir o ystlumod a ddaliwyd mewn trapiau wrth gynnal arolygon
  • Tynnu lluniau gyda fflach o ystlumod unigol i ddibenion adnabod neu grwpiau o ystlumod i ddibenion arolwg, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried y byddai hyn yn tarfu llai ar yr ystlumod na gafael ynddynt na'u goleuo am gyfnod maith.
Argymhellir mai un ffotograffydd yn unig a ddylai fod yn bresennol ar unrhyw adeg er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ystlumod.

Mae'n ofynnol cael trwydded benodol ar gyfer tynnu lluniau o ystlumod (gan gynnwys eu ffilmio) ar gyfer:
  • Tynnu lluniau â fflach mewn clwydfannau neu lochesau cysgu ystlumod, neu ar gyfer mynd i mewn i glwydfannau neu lochesau cysgu ystlumod at y prif ddiben o dynnu lluniau (gan gynnwys ffilmio). Gan fod tarfu ar ystlumod yn benodol i ddibenion tynnu lluniau yn gallu amharu'n fawr ar yr ystlumod, dim ond pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno bod angen clir am y lluniau ac i ffotograffwyr profiadol a all ddangos eu gallu i weithio'n effeithlon gan darfu ar yr ystlumod cyn lleied ag y bo modd y bydd trwyddedau'n cael eu dyroddi.

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru'n ystyried ei bod yn angenrheidiol i ymgynghorwyr dynnu lluniau o ystlumod yn eu safleoedd clwydo er mwyn dangos eu presenoldeb mewn adroddiadau arolygon.