Diolch i chi am ymateb i'r galwad hon am dystiolaeth ar baratoi datganiad o egwyddorion diogelwch ar gyfer cerbydau awtomataidd. 

Y dyddiad cau yw 1 Medi 2025. 

Gweld pob cwestiwn

Mae'r arolwg hwn yn darparu cwestiynau yn seiliedig ar ddewis y defnyddiwr, mae trosolwg o'r cwestiynau ar gael [yn agor mewn ffenestr newydd]. Mae pob cwestiwn yr arolwg yn ddewisol oni nodir yn wahanol. 

Printiwch neu arbedwch gopi o'ch cais

Pan gyrhaeddwch ddiwedd yr holiadur hwn, cynigir y cyfle i chi naill ai printio neu gadw copi o'ch cais ar gyfer eich cofnodion. Mae'r opsiwn hwn yn ymddangos ar ôl i chi wasgu 'Cyflwyno'ch ymateb'. Mae pob cwestiwn yn ddewisol oni nodir yn wahanol. 

Opsiwn cadw a pharhau

Mae gennych opsiwn i 'gadw a pharhau' â'ch ymateb ar unrhyw adeg. Os gwnewch hynny, anfonir dolen atoch drwy e-bost i ganiatáu i chi barhau â'ch ymateb lle gwnaethoch chi ei adael. 

 

Mae'n bwysig iawn eich bod yn nodi'ch cyfeiriad e-bost cywir os dewiswch gadw a pharhau. Os gwnewch gamgymeriad yn y cyfeiriad e-bost, ni fyddwch yn derbyn y ddolen sydd ei hangen arnoch i gwblhau'ch ymateb. 

Datganiad hygyrchedd

Darllenwch ein datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni SmartSurvey [yn agor mewn ffenestr newydd]

Rheoliadau diogelu data

Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn cynnal y galwad hon am dystiolaeth ar baratoi datganiad o egwyddorion diogelwch ar gyfer cerbydau awtomataidd. 

 

Gweler ein ffurflen ar-lein a hysbysiad preifatrwydd arolwg DfT [yn agor mewn ffenestr newydd] i gael rhagor o wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael eu prosesu mewn perthynas â'r arolwg hwn.

 

Yn ogystal, rydym yn gofyn am eich:

  • lleoliad preswyl presennol er mwyn ei ystyried wrth ddadansoddi eich ymateb gan y gall safonau gyrru a chanfyddiadau o ddiogelwch ffyrdd amrywio mewn gwahanol wledydd
  • safbwyntiau a thystiolaeth ynghylch yr effaith y gallai cerbydau awtomataidd ei chael ar grwpiau o nodweddion gwarchodedig, i gael eich mewnwelediad i'r meysydd hyn

Er nad ydym yn gofyn am ddata personol sensitif, bydd unrhyw ddata a ddarperir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu prosesu o dan erthygl 9.2.g, budd cyhoeddus sylweddol, gan gyfeirio at Atodlen 1 Rhan 2 Adran 8 y Ddeddf Diogelu Data at ddiben cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.

 

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol yn eich ymatebion oni bai y gofynnir yn benodol i chi am hynny.