Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym sut ydych wedi defnyddio eich trwydded ar gyfer cynnal arolwg, ac/neu i ofyn i’ch trwydded ar gyfer cynnal arolwg gael eu hadnewyddu.

Os ydych yn gwneud cais i adnewyddu eich trwydded:
  • Gallwch anfon eich cais chwe wythnos cyn i’ch trwydded bresennol ddod i ben.
  • Rhowch fanylion inni ar gyfer unrhyw rannau o'r drwydded a fydd yn cael eu heffeithio e.e., ychwanegu asiant neu gynorthwyydd achrededig newydd, neu wneud newidiadau i asiantau neu gynorthwywyr presennol, neu fod eich prif fanylion cyswllt wedi newid.
  • Nid oes angen i chi ailanfon unrhyw wybodaeth o'ch cais gwreiddiol am drwydded os na chaiff ei heffeithio gan eich newidiadau arfaethedig.

Edrychwch ar ein gwefan (bydd yn agor mewn tab newydd) ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad ar lefel y gwasanaeth a'r amserlenni presennol ar gyfer prosesu ceisiadau. Ni allwn warantu ymateb cynharach.

Rhoddir trwyddedau adnewyddedig am gyfnod o ddwy flynedd fel arfer, ar yr amod bod adroddiadau trwyddedau blaenorol wedi'u cyflwyno ar amser.

Mae’n amod ar unrhyw drwydded a ddyroddir bod adroddiad llawn ar y gwaith a gwblheir o dan drwydded yn cael ei gyflwyno cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad y daw’r drwydded i ben. Fe allai methu â gwneud hyn arwain at wrthod ceisiadau yn y dyfodol.

Ffioedd
  • Rhaid i chi dalu ffi am drwydded oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
  • Mae ffioedd yn berthnasol dim ond pan fo budd masnachol clir i'r ymgeisydd, megis pan wneir cais am drwydded arolygu i alluogi rhywun i weithredu'n fasnachol, neu pan gynigir prosiect ymchwil am resymau masnachol.
  • Dewch o hyd i wybodaeth am ein ffioedd a sut i dalu.