Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni am gyfleuster newydd, neu gyfleuster a ailadeiladwyd neu a wnaed yn fwy, yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer storio silwair neu slyri, gan gynnwys safleoedd lle storir silwair cae neu silwair heb ei fyrnu mewn bagiau. Rhaid i chi ddweud wrthym o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau'r gwaith adeiladu. Rydym yn eich annog i wneud hyn cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol yn ystod y cam cynllunio, er mwyn osgoi camgymeriadau costus posibl.

Os yw'r cyfleuster yn cynnwys tanc elifion tanddaearol neu rannol danddaearol, rhaid i chi ofyn i'r sawl a adeiladodd neu a gynlluniodd y tanc i lofnodi'r dystysgrif yn y ffurflen hon.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 neu anfonwch e-bost i: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.