Iaith:

Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg

 

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno gyda’r dull rydyn ni’n ei gynnig o ddatblygu polisi er mwyn cydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well?  
 

 

Cwestiwn 2: Pa eiriaduron neu adnoddau geiriadurol ydych chi’n eu defnyddio i chwilio am air Cymraeg?

(Ticiwch bob un sy’n berthnasol)
 

 

Cwestiwn 3: Pa gronfeydd termau ydych chi’n eu defnyddio i chwilio am dermau Cymraeg?

(Ticiwch bob un sy’n berthnasol)
 

 

Cwestiwn 4a: Petaem yn creu gwefan i ddarparu gwahanol adnoddau ieithyddol mewn un man, ar wahân i’r hyn a nodir yn adran 5 y ddogfen ymgynghori, beth arall yr hoffech chi weld y wefan yn ei wneud?

 

Cwestiwn 4b: Petaem yn creu gwefan i ddarparu gwahanol adnoddau ieithyddol mewn un man, dan ba amgylchiadau fyddech chi’n defnyddio’r wefan?

 

Cwestiwn 5a: Mae’r polisi drafft hwn yn nodi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i gydlynu holl elfennau seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well. A fydd yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yn caniatáu i ni wneud hyn?
 

 

Cwestiwn 5b: Mae’r polisi drafft hwn yn nodi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i gydlynu holl elfennau seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well. A oes unrhyw beth ar goll o’r polisi drafft?

 

Cwestiwn 5c: Mae’r polisi drafft hwn yn nodi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i gydlynu holl elfennau seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well. A ddylen ni ddilyn trywydd gwahanol ar gyfer rhai o’r meysydd hyn?
 

 

Cwestiwn 6: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r cynigion yn y polisi drafft hwn am seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:
i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

Cwestiwn 7: Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y polisi arfaethedig:
i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

 

Cwestiwn 8: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.