Iaith:

Diwygio Ardrethi Annomestig yng Nghymru

1. Cwestiynau o ran galluogi ailbrisiadau mwy rheolaidd
Tudalen 1 o 8

 

C1. A ydych yn cytuno y dylid cynnal ailbrisiadau o leiaf unwaith bob tair blynedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau tegwch yn y system drwy wneud yn siŵr y caiff prisiadau eu diweddaru'n amlach i adlewyrchu amodau economaidd newidiol?  Beth yw eich rhesymau dros eich ateb?

 

C2. A ydych o'r farn y dylid cynnal ailbrisiadau yn amlach na bob tair blynedd? Os felly, pa mor aml fyddech chi'n ei awgrymu?

 

C3. A ydych o'r farn y dylai'r bwlch rhwng y dyddiad prisio rhagflaenol a dyddiad cynnal yr ailbrisiad fod yn llai na dwy flynedd, os yn bosibl, yn y dyfodol?

 

C4. A oes gennych unrhyw farn ar y cynigion i greu dyletswydd ar dalwyr ardrethi i roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio os bydd gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r hereditament yn newid, a'r ddyletswydd newydd i roi cadarnhad blynyddol, er mwyn cefnogi ailbrisiadau mwy rheolaidd a helpu i gadw rhestrau ardrethu cywir?

 

C5. A oes gennych unrhyw farn ar y cynigion ar gyfer cyfundrefn gydymffurfio gymesur i gefnogi'r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth? Yn arbennig, a ydych o'r farn bod y cosbau arfaethedig yn deg ac yn gymesur?

 

C6. A yw'r amserlenni arfaethedig yn rhoi digon o amser i dalwyr ardrethi gyflawni eu rhwymedigaethau? Os nad ydynt, o dan ba amgylchiadau na fyddai hyn yn bosibl?