Iaith:

Ymgynghoriad ar gyrff cyhoeddus ychwanegol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 
Cyffredinol

C1. Beth yw eich barn chi am ymestyn y ddyletswydd llesiant i’r cyrff ychwanegol sydd wedi’u rhestru yn y ddogfen ymgynghori hon?

 
Cwestiynau i’r cyrff cyhoeddus ychwanegol arfaethedig

C2. Pa ganllawiau a chefnogaeth y byddai eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant yn eich sefydliad chi, ac i’w chyflawni?

 

C3. Beth ydych chi'n rhagweld fydd y goblygiadau o ran adnoddau wrth baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant yn eich sefydliad, a'i chyflawni?

 
Cwestiynau i’r cyrff cyhoeddus presennol – dysgu gan eraill

Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r ymgynghoriad hwn i gasglu gwybodaeth am brofiad cyrff cyhoeddus wrth wreiddio Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

C4. Beth yw’r gwersi allweddol a ddysgoch chi wrth baratoi ar gyfer y ddyletswydd llesiant, y byddech am eu rhannu â chyrff cyhoeddus newydd y mae Deddf LlCD yn berthnasol iddynt?

 

C5. Pa ganllawiau a chymorth a oedd o gymorth i chi wrth gyflawni datblygu cynaliadwy?

 

C6. Beth yw’r cyfleoedd sydd ar gael i rannu profiadau rhwng cyrff sydd wedi’u rhestru yn Neddf LlCD ar hyn o bryd a’r rhai y bwriedir eu cynnwys?

 
Y Gymraeg

C7. Hoffem gael eich barn ar yr effeithiau posibl y gallai ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD eu cael ar y Gymraeg, a hynny’n benodol:
  • ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

 

C8. Esboniwch hefyd sut rydych chi'n meddwl y gellid ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD er mwyn cael:
  • effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

 

C9. A oes gennych unrhyw farn arall ar ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD mewn perthynas â’r ystyriaethau o ran y Gymraeg?

 
Arall

C10. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ymestyn dyletswydd llesiant Deddf LlCD i'r cyrff arfaethedig a restrir yn yr ymgynghoriad?