Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gyngor y codir ffi amdano gan ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Cyn ichi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'n gwasanaeth cyn gwneud cais am ddim ac yn ymgyfarwyddo â'r canllawiau sydd ar gael ar ein gwefan.

Mae'r "Canllaw ar ein gwasanaeth cyn ymgeisio ar gyfer cynllunio datblygu" yn egluro yn fanwl beth sy'n cael ei gynnwys yn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Trwy gyflwyno'r ffurflen hon i Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwch yn cytuno â'r telerau ac amodau ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn. Gellir dod o hyd i'r telerau ac amodau hyn ar ein gwefan.

Byddwn yn ceisio rhoi amcangyfrif o’r gost am y gwaith i chi o fewn 21 diwrnod o dderbyn y ffurflen hon. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth a osodwyd yn adran 5, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall, cyn inni allu cynhyrchu amcangyfrif o’r gost ichi. Caniatewch o leiaf 30 diwrnod gwaith i'r gwaith ddechrau, o'r dyddiad y dychwelwch y ffurflen.

Os penderfynwch ddefnyddio'r gwasanaeth, bydd angen ichi ddychwelyd copi wedi'i lofnodi o'r dyfynbris i Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni fyddwch wedi ymrwymo i gontract ar gyfer darparu’r gwasanaeth nes ein bod wedi derbyn hwn.

Dylid tynnu'ch sylw at y ffaith mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cael yr holl drwyddedau a chaniatadau eraill sy’n berthnasol i’ch datblygiad, yn ogystal â chaniatâd cynllunio.   Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio hefyd ar gyfer rhoi cyngor ar fathau penodol o drwyddedau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.