Iaith:

Treth Gyngor Decach

 

C1. Ar hyn o bryd, mae bandiau'r dreth gyngor yn seiliedig ar werthoedd eiddo o 1 Ebrill 2003, bron i 20 mlynedd yn ôl. A ydych yn cytuno y dylid cynnal ymarfer ailbrisio'r dreth gyngor yn 2025, gyda gwerthoedd eiddo yn seiliedig ar 1 Ebrill 2023, er mwyn cynnal hygrededd y system a dosbarthu'r baich treth yn decach? Nid codi refeniw ychwanegol drwy'r ymarfer hwn fyddai'r diben.

 

C2. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ychwanegu rhagor o fandiau'r dreth gyngor (er enghraifft ym mhen uchaf a phen isaf y raddfa) ac ailosod y bandiau er mwyn gwneud y system yn fwy graddoledig?Y

 

C3. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ystyried trefniadau trosiannol os bydd eu hangen i liniaru effaith diwygiadau. Pa ffactorau y dylem eu hystyried wrth lunio'r trefniadau hyn?

 

C4. A ydych yn cytuno y dylid addasu Grant Cymorth Refeniw Llywodraeth Cymru i gynghorau er mwyn ystyried newidiadau i'r refeniw a godir ym mhob ardal leol o ganlyniad i ddiwygiadau i'r dreth gyngor?

 

C5. A ydych yn cytuno y dylid cynnal ymarferion ailbrisio'r dreth gyngor yn aml o leiaf bob pum mlynedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y caiff y baich treth ei rannu'n deg rhwng trethdalwyr yn rheolaidd?

 

C6. Pan gaiff eiddo ei wella'n sylweddol, dim ond o dan rai amgylchiadau penodol y caiff eiddo ei adolygu ac, o bosibl, ei ailfandio, er enghraifft pan werthir eiddo i berchennog newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar b'un a ddylai'r polisi hwn newid yn y dyfodol.

 

C7. Beth yw eich barn am hawliau apelio i drethdalwyr a sut y gellir gwella'r fframwaith?

 

C8. Beth yw eich barn ar sut y gall Llywodraeth Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, cynghorau neu sefydliadau eraill foderneiddio'r gwasanaeth a ddarperir i drethdalwyr a gwella tryloywder system y dreth gyngor?

 

C9. Beth yw eich barn am y disgowntiau, y personau a ddiystyrir, yr eithriadau neu'r premiymau presennol? Er enghraifft, a yw'r rheolau presennol yn briodol ac yn addas at y diben, yn eich barn chi? Yn eich barn chi, a oes agweddau penodol ar y rheolau y mae angen eu newid neu a ddylid llunio rheolau newydd?

 

C10. A ddylai fod gan Lywodraeth Cymru fwy o hyblygrwydd yn y dyfodol i bennu'r rheolau ar gyfer disgowntiau ‘oedolyn sengl’ ac ‘eiddo gwag’ statudol?

 

C11. Sut y gellid diwygio, symleiddio neu wella gostyngiadau yn y dreth gyngor ar gyfer eiddo sydd wedi'i addasu i'w ddefnyddio gan bobl sy'n byw ag anabledd?

 

C12. A ddylai Llywodraeth Cymru allu diwygio teitlau unrhyw ddisgowntiau, personau a ddiystyrir neu eithriadau a'r disgrifiadau ohonynt? A ddylai unrhyw rai o'r teitlau presennol gael eu newid, yn eich barn chi? Beth fyddai'n derm mwy priodol i'w ddefnyddio yn lle ‘â nam meddyliol difrifol’?

 

C13. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd angen parhau i roi cymorth i aelwydydd incwm isel dalu eu biliau treth gyngor.  A oes gennych unrhyw farn ar ddyluniad y cynllun presennol, gan gynnwys a ddylai barhau i fod yn ddibynnol ar brawf modd? A oes gennych unrhyw farn gyffredinol ar y cynllun?

 

C14. A ddylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cynllun cenedlaethol, i'w weinyddu'n lleol gan gynghorau, a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn, petai angen?

 

C15. A ddylai'r trefniadau lleol presennol fod yn rhan o'r cynllun cenedlaethol newydd er mwyn sicrhau cysondeb, tra'n cydnabod y bydd cynghorau yn cadw'r pwerau disgresiwn presennol o dan ddeddfwriaeth?

 

C16. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r polisïau arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

C17. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r polisïau arfaethedig gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

 

C18. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi: