Canllawiau Cwricwlwm i Gymru Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE)
Cwestiwn 1 – Pa mor dda y mae'r canllawiau'n esbonio cwmpas RVE a'i gyd-destun ym maes y Dyniaethau?
Cwestiwn 2 – A yw'r canllawiau, yn eu cyfanrwydd, yn glir ac yn ddefnyddiol i chi yn eich rôl?
Cwestiwn 3 – A yw'r canllawiau'n cynnig gwybodaeth berthnasol i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm ysgol ar gyfer RVE?
Cwestiwn 4 – Gan feddwl am bob adran o'r canllawiau, ydych chi'n teimlo bod:
- unrhyw fylchau yn yr wybodaeth? Os felly, beth y dylid ei ychwanegu?
- unrhyw adrannau sy'n arbennig o ddefnyddiol? Os felly, ym mha ffordd y maent yn ddefnyddiol ac i bwy?
Cwestiwn 5 – A yw'r canllawiau'n cynnig digon o gefnogaeth i bob ymarferydd ar gyfer eu gwaith trefnu a’u haddysgu mewn perthynas â RVE?
Cwestiwn 6 – A oes angen cymorth ychwanegol (e.e. dysgu proffesiynol ac adnoddau) i sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus?
Os felly, rhowch fwy o fanylion
Cwestiwn 7 – Mae'r cwestiwn hwn wedi'i anelu at Awdurdodau Lleol a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog addysg grefyddol (SACs).
i) A yw'r canllawiau'n ddogfen ddefnyddiol ar gyfer datblygu cynadleddau meysydd llafur cytûn?
ii) A yw'r canllawiau'n ddogfen ddefnyddiol i Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol?
Cwestiwn 8 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau RVE yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:
i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?
Sylwadau ategol
Cwestiwn 9 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y canllawiau RVE:
i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Sylwadau ategol
Cwestiwn 10 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.