Iaith:

Fersiwn ddrafft y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu: Argraffiad 3

 

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno bod adran 3 o’r canllawiau yn egluro’n glir sut y gellir defnyddio cynllun mynediad i ystyried mynediad hawdd i bawb ond gan ddiogelu diddordeb arbennig ac anghenion cadwraeth adeilad rhestredig ar yr un pryd? 

 

Cwestiwn 2: A yw'r canllawiau ar sut i wneud cais cynhwysfawr am safleoedd ymgeisiol yn gynnar yn y broses CDLl yn glir a digon manwl? Os ydych yn anghytuno, nodwch beth sy'n aneglur neu sydd angen ei ddiwygio a pham.

 

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno â'r meini prawf ar gyfer yr hyn a olygir wrth safleoedd ymgeisiol 'cyflawnadwy' a 'hyfyw yn ariannol'? (paragraff 3.40). Os ydych yn anghytuno, nodwch yr hyn y dylid ei newid a pham.

 

Cwestiwn 4: A yw'r Llawlyfr yn ddigon clir ynghylch sut i gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd, HRA neu ISA cyfannol? Os ydych yn anghytuno, nodwch sut rydych chi’n credu y gellid gwella'r canllawiau a pham.

 

Cwestiwn 5: A yw'r ‘Rhestr Wirio Cynllun Dadrisgio’ (tudalen 83) yn grynodeb defnyddiol o faterion craidd llunio cynllun fel y’u crynhoir ym Mhennod 5? Os ydych yn anghytuno, nodwch pa newidiadau y dylid eu gwneud a pham.

 

Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno bod y canllawiau ar lunio strategaeth ofodol yn ymdrin yn ddigonol â'r holl elfennau allweddol sydd eu hangen wrth asesu rôl a swyddogaeth lleoedd? Os ydych yn anghytuno, nodwch yr hyn y dylid ei newid a pham.

 

Cwestiwn 7: A yw'r canllawiau ar dai a senarios twf economaidd yn ddigon clir i alluogi gwneuthurwr cynllun i ystyried ystod o opsiynau twf a nodi gofyniad/darpariaeth yn y cynllun, ar gyfer cartrefi a swyddi, sy'n briodol ac yn gyflawnadwy? Os ydych yn anghytuno, nodwch pam a sut rydych chi’n credu y dylid gwella'r canllawiau.

 

Cwestiwn 8: A oes digon o arweiniad ymarferol ar sut i baratoi taflwybr tai er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni tai? A yw diffiniadau'r cydrannau'n ddigon clir? Os ydych yn anghytuno, nodwch yr hyn y dylid ei newid a pham.

 

Cwestiwn 9: A ydych yn cytuno â'r diffiniad o hyfywedd (paragraff 5.81) ac elfennau allweddol hyfywedd (tablau 24 a 25)? Os ydych yn anghytuno, nodwch beth sydd angen ei ddiwygio a pham.

 

Cwestiwn 10: A yw'r Llawlyfr yn gwahaniaethu'n glir rhwng gofynion hyfywedd profion ar lefel uchel a phrofion penodol i safle? Os nad ydych yn credu bod hyn yn ddigon clir, beth sydd angen ei newid yn eich barn chi a pham.

 

Cwestiwn 11: A yw'r Llawlyfr yn rhoi digon o arweiniad i alluogi paratoi cynllun seilwaith ac i ddangos sut i ymgorffori elfennau craidd y cynllun seilwaith yn y cynllun datblygu? Os ydych yn anghytuno, nodwch beth rydych chi'n meddwl sydd angen ei ddiwygio a pham.

 

Cwestiwn 12: Ydych chi'n cytuno â'r rhestr o ddangosyddion i'w cynnwys yn y fframwaith monitro (tabl 29)? Os ydych yn anghytuno, nodwch pa newidiadau y dylid eu gwneud a pham eu bod yn angenrheidiol yn eich barn chi.

 

Cwestiwn 13: A yw'r canllawiau ar y weithdrefn Adolygu Ffurf Fer yn ddigon clir a defnyddiol? Os ydych yn anghytuno, nodwch beth y gellid ei ddiwygio a pham.

 

Cwestiwn 14: A ydych yn cytuno â graddfa a chynnwys y materion sydd i'w cynnwys mewn Cynllun Datblygu Strategol? Os na, beth ydych chi'n anghytuno ag ef a pham?

 

Cwestiwn 15: A oes digon o ganllawiau clir a defnyddiol i alluogi awdurdodau i ddechrau paratoi Cynllun Datblygu Strategol ac i ystyried opsiynau gofodol?  Os ydych yn anghytuno, beth yn eich barn chi y dylid ei ddiwygio a pam?

 

Cwestiwn 16: Unrhyw sylwadau eraill: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol.  Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw yn benodol, manteisiwch ar y cyfle hwn i sôn amdanynt.