Iaith:

Consultations - master

 

(i) Ydych chi’n darparu addysg neu’n cefnogi darpariaeth addysg? *

 

(ii) Os ydych, i ba fath o sefydliad? (Os na ewch at iv isod)

 

(iii) Beth yw eich prif swyddogaeth?

 

(iv) Os nad ydych yn gweithio yn darparu addysg neu’n cefnogi darpariaeth addysg, ym mha rôl ydych yn cynnig adborth?

 

(v) Ydych chi’n cynnig adborth ar ran sefydliad neu grwp?

 

(vi) Os ‘ydych' nodwch p’run os gwelwch yn dda:

 

Cwestiwn 1 – A yw'r wybodaeth a ddarperir yn y fframwaith hwn am brofiadau, gwybodaeth a sgiliau yn cynnig arweiniad i athrawon i helpu cynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?

 

Cwestiwn 2 – A oes unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys yn y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau?

 

Cwestiwn 3 – A fydd yr wybodaeth am gymwyseddau iaith a ddarperir yn y fframwaith hwn yn cefnogi athrawon i gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?
 

 

Cwestiwn 4 – Mae'r fframwaith drafft yn nodi'r disgrifiadau dysgu fesul llinyn. Ydych chi'n meddwl y byddai cynnwys brawddeg ychwanegol uwchben y disgrifiadau  dysgu i grynhoi ffocws pob llinyn cynnydd yn ddefnyddiol i athrawon? (Ceir enghraifft o'r fframwaith isod, gyda'r frawddeg ychwanegol a awgrymir: 'Mae'r llinyn hwn yn disgrifio cynnydd mewn datblygu geirfa'.)


 

 

Cwestiwn 5 – Pa ddeunyddiau ategol ychwanegol ydych chi'n meddwl y bydd eu hangen ar athrawon er mwyn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru a'r fframwaith hwn yn effeithiol i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?

 

Cwestiwn 6 – Pa gyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol ydych chi'n meddwl y bydd eu hangen ar athrawon er mwyn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru a'r fframwaith hwn yn effeithiol i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?

 

Cwestiwn 7 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r fframwaith arfaethedig ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion, lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Saesneg yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

Sylwadau:

 

Cwestiwn 8 – Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y fframwaith arfaethedig ar gyfer ysgolion, lleoliadau a ffrydiau cyfrwng Saesneg gael ei lunio neu ei addasu er mwyn: cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Sylwadau: