Polisi Preifatrwydd 
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gweinyddu a phrosesu eich cyfranogiad ar gyfer y Cynllun Llwybrau Tu Cefn i Strydoedd o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu’n ddi-enw gyda phreswylwyr sy’n cymryd rhan, adrannau perthnasol yng Nghyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, Taclo Tipio Cymru, a Chadwch Gymru’n Daclus.  Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 3 blynedd yn ogystal â’r flwyddyn bresennol. 


Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan nhw neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx 

Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid yn gweithio i wella strydoedd cefn lleol a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Bydd yr arolwg byr hwn yn ein helpu ni i ddeall y problemau presennol a siapio’r prosiect.  
 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y lleoliadau canlynol: 

 

Lleoliad rhif 1:  Sandycroft - Queen’s Avenue a North Street

Lleoliad rhif 2:  Queensferry - Queen Street, Glynne Street, Station Road, a Dundas Street 

Lleoliad rhif 3:  Shotton -  Henrietta Street, Strickland Street, Clarence Road a Butler Street a Shotton Lane

Lleoliad rhif 4:  Shotton - Chester Road East, Salisbury Street, Ryeland Street a Bridge Street