Cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
A ydych yn ymateb fel unigolyn ynteu ar ran ysgol, lleoliad neu sefydliad?
Cwestiwn 1 – Mewn ymateb i adborth ar ganllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru yn 2019 mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn orfodol drwy ddatblygiad y Cod hwn. A yw’r 27 datganiad fel y’u mireiniwyd drwy’r Cod drafft hwn yn crynhoi’r blaenoriaethau ar gyfer dysgu plant a phobl ifanc gydol y continwwm ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed?
Cwestiwn 2 – Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig fydd y prif strwythurau ar gyfer rhoi trefn ar y cwricwlwm ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad. A yw’r datganiadau diwygiedig yn glir ac yn hawdd eu deall, gan ddarparu dealltwriaeth o ehangder datblygu’r cwricwlwm?
Cwestiwn 3 – Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig wedi’u mireinio ar ôl ystyried materion fel rhan o basio deddfwriaeth gysylltiedig drwy’r Senedd yn 2020/21.
3a - A yw’r diwygiadau i’r datganiadau mewn perthynas ag amrywiaeth a hanes Cymru yn ddigon clir?
3b – A yw’r diwygiadau i’r datganiadau mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd yn ddigon clir?
3c – A yw’r diwygiadau i’r datganiadau yn ddigon clir i sicrhau perthnasedd i’r ystod lawn o ieithoedd y gall dysgwyr ddod ar eu traws?
Cwestiwn 4 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:
i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 5 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig arfaethedig:
i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 6 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.