Iaith:

Canllawiau Statudol Adolygu Diogelu Unedig Sengl - hawdd ei ddeall

 

Cwestiwn 1: Ydych chi’n meddwl bod y rhesymau dros wneud y broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn glir? Ydy’r cyflwyniad yn glir ac yn hawdd ei ddeall?

 

Darllenwch dudalen 10 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 2. Ydych chi’n meddwl y bydd yr egwyddorion sydd yn dweud wrthych chi pam ein bod ni wedi creu Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yn ein helpu ni i gyflawni pwrpas yr ADUS?

 

Darllenwch dudalennau 10 i 16 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 3. Ydy hi’n glir pryd y dylai ADUS gael ei wneud?

 

Darllenwch dudalennau 17 i 18 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 4. Ydy’r broses ADUS wedi cael ei egluro yn glir? Oes digon o fanylion i egluro pob cam o’r broses ADUS?

 

Darllenwch dudalennau 19 i 25 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 5. Mae’n bwysig bod y bobl gywir yn gwneud yr ADUS. Ydy rolau a chyfrifoldebau’r bobl yma yn glir ac yn ddefnyddiol? 
 

 

Darllenwch dudalennau 25 i 28 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 6. Am bob adolygiad rydyn ni’n ei wneud fe fydd pobl wahanol angen bod yn rhan ohono. Ydy’r canllawiau i deuluoedd ac unigolion allweddol yn glir ac yn ddefnyddiol? Os na sut ydyn ni’n gallu ei wneud yn fwy clir?
 

 

Darllenwch dudalennau 26 i 33 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 7. Ydy hi’n glir pryd y dylai person sydd yn gwneud yr ADUS yn gynnwys pobl eraill?
 

 

Darllenwch dudalennau 26 i 33 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 8. Sut ydych chi’n meddwl y bydd cynnwys pobl eraill mewn ADUS yn helpu’r holl broses ADUS?

 

Darllenwch dudalennau 36 i 37 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 9. Ydy’r canllawiau ar gyfer gweithio gyda dioddefwyr, teuluoedd a phrif unigolion yn glir?

 

Darllenwch dudalen 34 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 10. Ydy camau’r broses ADUS yn glir? Ydyn nhw’n gwneud synnwyr?

 

Darllenwch dudalen 36 i 37 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 11. Ydy’r adran ar beth rydyn ni’n gallu ei ddysgu o ADUS yn glir ac yn hawdd ei ddeall?
 

 

Darllenwch dudalen 38 o’r brif ddogfen os gwelwch yn dda.

Cwestiwn 12a. Ydych chi'n meddwl bod yr wybodaeth am sut fyddwn ni yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn glir ac yn ddefnyddiol?

 

Cwestiwn12b. Ydych chi’n meddwl y dylai pobl orfod rhannu gwybodaeth ar gyfer adolygiad ADUS yn ôl y gyfraith?

 

Cwestiwn 13. Ydy’r canllaw yn ddigon clir am sut i weud yn siŵr bod y partneriaid allweddol yn cymryd rhan yn yr SUSR? Er enghraifft mae partneriaid allweddol yn gallu bod yn:
  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
  • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Cwestiwn 14 Beth ydych chi’n feddwl am sut y mae’r canllaw yn gallu effeitho ar wahanol grwpiau o bobl? Oes gennych chi unrhyw feddyliau am sut rydyn ni’n gallu stopio effeithiau drwg ar rai grwpiau arbennig?

 

Cwestiwn15. Beth ydych chi’n feddwl fyddai effeithiau eraill y canllaw yn gallu bod? Er enghraifft:
  • Sut fydden nhw o fudd neu ddim o fudd i bobl?
  • Faint fydd y gost?
  • Faint mae’r canllaw yn gallu arbed inni?

 

Ydych chi’n meddwl bydd y newidiadau rydyn ni eisiau eu gwneud drwy’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael unrhyw effeithiau ar y Gymraeg?

Mae hyn yn gallu bod yn dda neu'n ddrwg. Ac ydych chi’n meddwl bydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn deg?

 

Dywedwch wrthyn ni sut rydyn ni’n gallu gwneud yn siŵr nad ydy pobl sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn cael eu heffeithio yn ddrwg drwy’r newidiadau yn y ddogfen yma. Sut rydyn ni’n gallu hyrwyddo’r iaith Gymraeg?

 

Oes yna unrhyw beth arall rydych chi eisiau ei ddweud?