Dewis iaith arall

Ffurflen gofrestru'r cynllun cymhorthdal

Cwblhewch yr holl flychau oni bai eu bod wedi'u marcio'n ddewisol. Mae esboniad o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i gynnwys o dan y ffurflen. I gael cymorth â llenwi’r ffurflen hon, anfonwch e-bost i tryloywder@llyw.cymru
 

1. Cyfeiriad e-bost cyswllt

 

2. Enw'r Awdurdod Cyhoeddus
 

Enw awdurdod cyhoeddus sy'n creu'r cynllun.

 

3. Enw'r cynllun cymhorthdal
 

Enw'r cynllun fel y'i dewisir gan yr awdurdod cyhoeddus.

 

4. Amcan polisi penodol y cymhorthdal neu'r cynllun
 

Crynodeb o'r amcan polisi cyhoeddus penodol a nodwyd gennych yn Egwyddor A o'ch asesiad egwyddorion. Noder, oherwydd cyfyngiadau cyfrif geiriau, peidiwch â chopïo'r egwyddor A lawn yr asesiad.

 

5. Diben y cynllun
 

Crynodeb byr o ddiben y cynllun a sut mae'n cyflawni'r amcan polisi penodol.

 

6. Categorïau o fenter sy'n gymwys i gael cymorthdaliadau o dan y cynllun
 

Amlinellwch y mathau o fenter sy'n gymwys i gael cymorthdaliadau o dan y cynllun. Gallwch gyfyngu hyn yn seiliedig ar faint, strwythur neu weithgarwch cyn belled â bod cyfiawnhad polisi dros wneud hynny.

 

7. Crynodeb o'r telerau ac amodau ar gyfer cymhwysedd i gael cymorthdaliadau o dan y cynllun
 

Crynhoi'r paramedrau ar gyfer cymhwysedd i fenter gael cymorthdaliadau o dan y cynllun; er enghraifft, cefnogi rhai gweithgareddau, sectorau neu faint menter.

 

8. Sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun gan gynnwys crynodeb o unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymarebau cymhorthdal neu symiau
 

Dylai hyn amlinellu unrhyw gerrig milltir neu feincnodau gofynnol sy'n ofynnol ar gyfer dwysedd y cymorth penodol yn ogystal â chynnwys crynodeb o unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymarebau neu symiau cymorthdaliadau.

 

9. A yw'r cynllun cymhorthdal yn Gynllun Cymhorthdal o ddiddordeb neu ddiddordeb arbennig?
 

Gweler pennod 10 o Ganllawiau Statudol y DU ar gyfer diffiniadau o Gynllun Cymhorthdal o Ddiddordeb, neu Ddiddordeb Arbennig (SSoI/SSoPI).

 

10. A oes adroddiad wedi'i gyhoeddi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) mewn perthynas â'r cymhorthdal?
 

Er enghraifft, yn dilyn atgyfeiriad SSoI neu SSoPI.

 

11. Sail Gyfreithiol
 

Dyma gyfiawnhad cyfreithiol y cynllun cymhorthdal hwn, er enghraifft ‘Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006’ neu ‘Adran 1(2), 1(3)d a 1(7)f o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975’.

 

12. URL polisi awdurdodau cyhoeddus
 

Dyma'r cyfeiriad gwe ar gyfer y polisi y mae'r cymhorthdal hwn yn gysylltiedig ag ef.

 

13. Disgrifiad o dudalen polisi awdurdod cyhoeddus
 

Crynodeb byr o'r dudalen polisi y gwnaethoch ddarparu'r URL ar ei chyfer. Er enghraifft, tudalen polisi'r Cynllun Purdeb Dŵr.

 

14. Cyllideb
 

Rhowch y gyllideb ar gyfer y cynllun cymhorthdal. Os nad oes union swm yn hysbys, neu os nad oes cyllideb gan y cynllun, nodwch amcangyfrif a nodwch yn y disgrifiad o'r cynllun mai amcangyfrif yn unig yw'r gyllideb. Defnyddiwch werthoedd rhifiadol yn unig.

 

15. Uchafswm a roddir o dan gynllun
 

Rhowch uchafswm cymhorthdal unigol y gellir ei roi o dan y cynllun fel yr amlinellir yn rheoliad 4(3)(e)(i) o Reoliadau Cronfa Ddata.

 

16. Dyddiad cadarnhau
 

Dyddiad cadarnhau yw'r dyddiad y mae awdurdod cyhoeddus yn cadarnhau'r penderfyniad i wneud cynllun cymhorthdal.

   DD/MM/YYYY 
 
 

17. Dyddiad cychwyn
 

Dyddiad dechrau'r cynllun.

   DD/MM/YYYY 
 
 

18. Dyddiad terfynu
 

Dyddiad terfynu'r cynllun.

   DD/MM/YYYY 
 
 

19. Dewiswch un neu ragor o sectorau
 

Dewiswch un neu ragor o'r sectorau a restrir sy'n gymwys i'r cynllun cymhorthdal.

 

20. Pa un, os oes rhai, sy'n gymwys i'r cymhorthdal neu'r cynllun?
 

Dewiswch bob un sy'n berthnasol. Cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw rai yn gymwys i'ch cymhorthdal. Ni ddylech ond dewis (a) Egwyddorion ynni a'r amgylchedd os ydych wedi asesu'ch cymhorthdal yn erbyn yr egwyddorion penodol hyn. Os ydych yn defnyddio cynllun cymhorthdal gwaddol sy'n rhagflaenu'r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (er enghraifft, cynllun gwaddol GBER), dewiswch 'ydy' yn (n) cymorthdaliadau gwaddol.

YdyNac ydy
a. Egwyddorion ynni a'r amgylchedd
b. Adleoli gweithgareddau
c. Achub
d. Ailstrwythuro
e. Ailstrwythuro cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
f. Diddymu cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
g. Diddymu darpariaeth ar gyfer cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
h. Cymorthdaliadau i yswirwyr sy'n darparu yswiriant credyd allforio
i. Cymorthdaliadau ar gyfer cludwyr awyr ar gyfer gweithredu llwybrau
j. Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyffredinol
k. Trychinebau naturiol ac amgylchiadau eithriadol eraill
l. Argyfyngau economaidd cenedlaethol neu fyd-eang
m. Sefydlogrwydd ariannol (fel y cyfarwyddir gan Drysorlys y DU)
n. Cymorthdaliadau gwaddol
o. Prosiectau cydweithredu trawsffiniol neu ryngwladol mawr