Iaith:

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Gwrth-hiliol

 
Mae gan y Cynllun Gweithredu dri maes penodol yr hoffem i chi roi eich barn i ni arnynt. Maent yn cynnwys y tudalennau sy’n gosod y weledigaeth, y themâu polisi gyda'r nodau a'r camau gweithredu, a'r adran lywodraethu.

Gallwch roi sylwadau ar un neu fwy o’r meysydd hyn.

Ceir rhai cwestiynau isod a allai eich helpu i ymateb:

C1. A yw'r weledigaeth, y diben, y gwerthoedd a'r dyfodol dychmygol hyd at 2030 yn adlewyrchu'r hyn yr hoffech ei weld yn cael ei gyflawni erbyn 2030? Beth allai rwystro’r weledigaeth a’r gwerthoedd rhag cael eu gwireddu? Beth allai helpu i wireddu’r weledigaeth a’r gwerthoedd?

 
C2. Hoffem gael eich barn ar y nodau a'r camau gweithredu. I fynegi barn ar rai o’r nodau, camau gweithredu a chanlyniadau, neu phob un ohonynt, ystyriwch y canlynol:

(a) A yw'r esboniad (naratif / cefndir) yn egluro pam rydym wedi dewis y nodau a'r camau gweithredu yn y maes polisi hwn?
(b) A oes unrhyw flaenoriaethau neu wybodaeth gefndir ar goll neu unrhyw wybodaeth arall?
(c) Ydych chi'n cytuno â'r nodau a’r camau gweithredu a ddewiswyd? Pa gamau fyddech chi’n eu hychwanegu neu eu dileu?
(d) A fydd pob nod a cham gweithredu cysylltiedig yn cynhyrchu'r canlyniadau dymunol a nodwyd gennym? Os na, beth fyddech chi am ei newid fel ein bod yn cyflawni newidiadau sy'n wirioneddol wrth-hiliol yn yr amserlenni a nodir?
(e) Sut y gellid cynyddu neu liniaru'r effaith gadarnhaol neu negyddol?


 

Addysg

 

Troseddau casineb a chyfiawnder

 

Tai a llety

 

Cyflogaeth ac incwm

 

Iechyd

 

Gofal Cymdeithasol

 

Arweinyddiaeth a chynrychiolaeth

 

Y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a threftadaeth

 

Yr amgylchedd

 

Y Gymraeg

 

Democratiaeth leol

 

Materion trawsbynciol

 

C3. A oes unrhyw nodau a chamau gweithredu y gallwch feddwl amdanynt sydd ar goll? Pwy ddylai eu cyflawni a pha gamau a fyddai'n eu helpu i wneud hynny?

 

C4. Beth yw'r heriau allweddol a allai atal y nodau a'r camau gweithredu rhag cyflawni gwrth-hiliaeth erbyn 2025?

 

C5. Pa adnoddau (gallai hyn gynnwys cyllid, amser staff, hyfforddiant, mynediad at wasanaethau cymorth neu eiriolaeth ymhlith pethau eraill) a fydd yn angenrheidiol yn eich barn chi i gyflawni'r nodau a’r camau gweithredu a amlinellir?

 

C6. Ydych chi'n teimlo bod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ymdrin yn ddigonol â chroestoriad hil â nodweddion gwarchodedig eraill megis crefydd, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd, rhyw, a statws priodasol a phartneriaeth sifil?  Os na, sut y gallwn wella hyn?

 

C7. Gweler yr adran Llywodraethu. Pa awgrymiadau allwch chi eu cynnig ar gyfer mesur llwyddiant wrth greu Cymru wrth-hiliol ac ar gyfer cryfhau atebolrwydd am weithredu?

 

C8. Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

 

C9. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid trefnu neu newid y dull polisi arfaethedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu mwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C10. Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd, ac mae trafodaethau ynghylch iaith a hunaniaeth wedi dangos nad yw llawer o bobl yn ystyried bod y term 'BAME' yn briodol. O ganlyniad, rydym yn cyfeirio at bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol neu bobl ethnig leiafrifol penodol yn y Cynllun. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y term hwn hefyd yn broblemus a’i bod yn well, lle bo'n bosibl, bod yn fwy penodol am yr hil neu’r ethnigrwydd y mae unigolyn neu gymuned yn uniaethu ag ef. Fodd bynnag, ar adegau mae angen cyfeirio at yr holl bobl hynny sy'n rhannu'r profiad o fod yn destun hiliaeth. Rydym wedi defnyddio'r term pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol at y diben hwn. Beth yw eich barn am y term hwn ac a oes dewis arall sy’n well gennych? Gall siaradwyr Cymraeg ystyried termau addas yn y ddwy iaith.

 

C15. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: