Croeso i'r ffurflen gais ar-lein am Gydsyniad Heneb Gofrestredig.

Mae angen Cydsyniad Heneb Gofrestredig cyn y gellir gwneud unrhyw waith ar heneb gofrestredig. Mae'n drosedd gwneud unrhyw waith a fyddai'n tarfu ar heneb gofrestredig neu'r tir o fewn heneb gofrestredig heb gael caniatâd heneb gofrestredig yn gyntaf.

Prif ddiben cofrestru yw gwarchod a diogelu henebion cofrestredig. Mae hyn yn golygu bod rhagdybiaeth yn erbyn rhoi caniatâd ar gyfer gwaith a fydd yn niweidio heneb gofrestredig. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o geisiadau ar gyfer gwaith rheoli cadarnhaol.

Mae rhagor o wybodaeth am heneb gofrestredig a phryd mae angen caniatâd ar gael yn cymorth Cydsyniad Heneb Gofrestredig ar wefan Cadw.

Mae canllawiau ar lenwi'r ffurflen hon ar gael yma.