Bob tair blynedd, mae angen i Gynghorau adolygu’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd ganddynt mewn grym. Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus cyfredol Sir y Fflint ar Reoli Cŵn yn dod i ben ar 29 Hydref 2026 ac mae’r Cyngor yn gwahodd pobl i leisio barn ynghylch cadw’r cyfyngiadau presennol am dair blynedd arall ai peidio.


Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Eu bwriad yw atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn mewn modd gwrth-gymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael, neu'n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus o ran ei natur.

 

Yn Sir y Fflint, ar hyn o bryd, mae’n rhaid i berchnogion cŵn:

  • Glirio baw eu ci yn syth mewn mannau cyhoeddus. 
  • Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus pan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi gofid.
  • Cadw cŵn ar dennyn mewn mynwentydd.
  • Sicrhau bod ganddynt ffordd o godi baw cŵn oddi ar y llawr.

Gwaherddir cŵn hefyd rhag cael mynediad i:

  • ardaloedd chwarae caeedig i blant
  • ardaloedd chwarae ar gaeau chwaraeon wedi eu marcio
  • yr ardal chwarae mewn cyfleusterau chwaraeon neu hamdden penodol 
  • safleoedd ysgolion
  • lleoliadau penodol yn y sir. 

Gallai methu â chydymffurfio â’r uchod arwain at gyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig i’r sawl sy’n gyfrifol am y ci.

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ymateb i’n harolwg. 

1. Ydych chi’n berchen ar gi?

 

2.
Ydych chi’n cytuno y dylid parhau â gorchymyn sy’n gofyn i berchnogion cŵn gael gwared â baw eu cŵn oddi ar y tir?

 

3. Ydych chi'n cytuno y dylid gorfodi perchnogion cŵn i’w rhoi ar dennyn, ar gais swyddog awdurdodedig, DDIM OND os yw’r ci yn rhydd ac yn achosi niwsans neu annifyrrwch i berson, aderyn neu gi arall? (NID OES bwriad i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar gŵn oddi ar dennyn).

 

4. Ydych chi’n cytuno y dylid gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi'u marcio?

 

5. Ydych chi’n cytuno y dylid gwahardd cŵn o ardaloedd chwaraeon dynodedig fel lawntiau bowlio a chyrtiau tennis? 

 

6. Ydych chi’n cytuno y dylid gwahardd cŵn o feysydd chwarae plant sydd ag offer ac sydd wedi'u ffensio?  

 

7. Ydych chi’n cytuno y dylid gwahardd cŵn o bob rhan o safleoedd ysgolion?

 

8. Ydych chi’n cytuno y dylai cŵn gael eu cadw ar dennyn mewn mynwentydd? 

 

9. Ydych chi’n cytuno y dylai rhai sy’n mynd â chŵn am dro fod â dull o gasglu baw cŵn bob amser?