Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i geisio cyngor rhagarweiniol am ddim gan CNC ar eich cynnig datblygu. Fel rhan o'n barn ragarweiniol, byddwn yn anelu at roi i chi:
  • Barn ragarweiniol ar ba ystyriaethau amgylcheddol a restrir ar ein Rhestr Wirio i'w hystyried fel rhan o'ch cais. Mae'r rhestr wirio hon i'w gweld yma
  • Amlinelliad o'r asesiadau a allai fod yn ofynnol i gefnogi'ch cais

Mae ein "Canllaw i'n gwasanaeth cyn ymgeisio ar gyfer cynllunio datblygiad" yn esbonio'r hyn sy'n rhan o'r gwasanaeth hwn yn fanylach ac amodau ei gynnig. 

Os ydych chi angen cyngor manylach gan CNC ar eich cynnig datblygu, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cynghori Cynllunio Dewisol (Gwasanaeth CCD) y codir tâl amdano. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r farn ragarweiniol hon am ddim, cyn gwneud cais am y gwasanaeth CCD y codir tâl amdano. Bydd hyn yn eich helpu chi a ninnau i asesu a fyddai defnyddio'r Gwasanaeth CCD yn debyg o fod o fudd i chi.

Byddwn yn anelu at ateb eich cais am farn ragarweiniol o fewn 21 diwrnod i dderbyn y ffurflen hon a'r holl wybodaeth berthnasol sydd wedi'i hamlinellu yn adran 3. Sylwer mai dim ond unwaith ar gyfer pob datblygiad arfaethedig y gallwn ddarparu barn ragarweiniol
Dylech ystyried y cyngor yr ydym yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod hwn ochr yn ochr â'r canllaw ar ein gwefan. Ni fyddwn yn ceisio dyblygu'r canllaw o fewn ein cyngor i chi, felly mae'n werth i chi gyfarwyddo'ch hun i sicrhau bod eich cynnig yn cadw ati.

Ni fyddwn chwaith yn dyblygu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan sefydliadau eraill. Ynghyd ag ymgynghori â CNC, rydym gan hynny yn argymell eich bod yn cysylltu â'r Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol. Byddant yn gallu'ch cynghori chi ar nifer o faterion, gan gynnwys a ddylid cynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol fel rhan o'ch cais cynllunio. Byddant hefyd yn gallu'ch cynghori chi a fydd eich cynnig yn pasio'r profion cyfiawnhau mewn perthynas â pherygl o lifogydd, fel yr amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogydd.

Dylech hefyd siarad â'r Awdurdod Cynllunio Lleol os yw'ch cynnig yn debyg o gael effaith sylweddol ar safle gwarchod natur Ewropeaidd, a pha wybodaeth (os o gwbl) sy'n ofynnol i ymgymryd ag asesiad priodol o dan y rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Dylid eich cynghori, yn ychwanegol at ganiatâd cynllunio, mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr eich bod chi'n sicrhau'r holl gysyniadau a thrwyddedau eraill sy'n berthnasol i'ch datblygiad.