Er mwyn caniatáu i Wasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru benderfynu p’un ai bod deunydd yn addas i’w garthu neu ei waredu yn y môr, rydym yn ei wneud yn ofynnol i’r deunydd gael ei samplu a’i ddadansoddi. Mae'n rhaid i’r gwaith samplu a dadansoddi hwn gydymffurfio â’r canllawiau a sefydlwyd gan OSPAR.

 Rydym yn hwyluso llunio cynllun samplu trwy ddefnyddio ymgynghorwyr allanol, ac yn dilyn hyn bydd yn ofynnol i chi gyflawni'r gwaith samplu a dadansoddi yn unol â'r cynllun hwn a chyflwyno'r canlyniadau gyda'ch cais. 

Noder: dylai unrhyw gais dilynol am drwydded forol adlewyrchu'r manylion a ddarperir ar gyfer y cais am gynllun samplu isod. Pe bai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud, dylid gofyn am gadarnhad oddi wrth Wasanaeth Trwyddedu CNC fod y cynllun samplu a luniwyd yn dal i fod yn gymwys. Gall methu â gwneud hyn arwain at oedi, ffi ychwanegol neu'r gofyniad i ail-samplu.

Manylion yr ymgeisydd *

*
*
*
 

Cyfaint y deunydd sydd i’w garthu (m3)

 

Dyfnder y gwaddod sydd i’w garthu (yn hytrach na dyfnder y dŵr sydd i’w gyrraedd)

 

Disgrifiad o'r lleoliad (e.e. Porthladd Caergybi)

 

Cyfesurynnau'r ardal(oedd) i'w charthu/i'w carthu (dylai ardaloedd unigol a enwir, e.e. angorleoedd, fod yn fanwl yn hytrach nag un ardal)

 

Rhowch ffeil siâp system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) os yw'n bosibl

Dewis Ffeil