Iaith:

Cronfeydd data addysg awdurdodau lleol

 
Cwestiwn 1Mae’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ysgolion annibynnol ddatgelu i awdurdodau lleol (ALlau) y wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 i’r rheoliadau. Bydd hyn yn helpu’r ALl i adnabod plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd.
 

i) Ydych chi’n credu bod y wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol ac yn gymesur? Beth yw’r rhesymau dros eich ateb?
 

 

ii) Os nad ydych yn credu bod y wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol nac yn gymesur, beth fyddai’r ffordd orau/ffyrdd gorau o gyflawni dyletswydd yr ALl i adnabod plant o oedran ysgol gorfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael addysg addas, yn eich barn chi?

 

Cwestiwn 2 – Ar hyn o bryd, mae ALlau yn gyfrifol am blant yn eu hardal nad ydynt yn ymwybodol ohonynt. O dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996 mae’n rhaid i ALlau wneud trefniadau i’w galluogi i ganfod (hyd y gellir gwneud hynny) pwy yw’r plant yn eu hardal sydd o oedran ysgol gorfodol ond i) nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol, a ii) nad ydynt yn cael addysg addas heblaw yn yr ysgol. A ydych o’r farn y bydd y gronfa ddata yn helpu ALlau, hyd y gellir gwneud hynny, i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd a/neu blant sy’n colli addysg yn eu hardal? Beth yw’r rheswm dros eich ateb?

 

Cwestiwn 3 – Heb gronfa ddata, pa ddull amgen dibynadwy a chyson a fyddai’n galluogi’r ALl i adnabod plentyn nad yw’n hysbys iddo?
 

 

Cwestiwn 4 – Mae Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Addysg) (Cymru) 2020 drafft yn cynnig y dylai byrddau iechyd lleol ddatgelu’r wybodaeth yn Atodlen 1 i ALlau yn flynyddol. A ydych yn cytuno â datganiad blynyddol? Os nad ydych yn cytuno, pa mor aml y dylid rhoi’r wybodaeth hon i ALlau yn eich barn chi, a beth fyddai’r adeg fwyaf priodol?
 

 

Cwestiwn 5 – Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2020 drafft yn cynnig y dylai ysgolion annibynnol ddatgelu’r wybodaeth yn Atodlen 1 i ALlau yn flynyddol. A ydych yn cytuno â datganiad blynyddol? Os nad ydych yn cytuno, pa mor aml y dylid rhoi’r wybodaeth hon i ALlau, yn eich barn chi, a beth fyddai’r adeg fwyaf priodol?
 

 
Cwestiwn 6 Beth fyddai goblygiadau technegol a gweinyddol, a goblygiadau o ran adnoddau, cyflwyno datganiad data yn amlach o ran y canlynol:
 

i) byrddau iechyd lleol

 

ii) ysgolion annibynnol

 

iii) ALlau

 

iv) arall

 

Cwestiwn 7 – Pwy fyddai angen cael mynediad at y gronfa ddata yn yr ALl er mwyn cyflawni ei swyddogaethau?
 

 

Cwestiwn 8 – A gredwch y gallai unrhyw beth yn y rheoliadau drafft gael effaith anghymesur ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, ac os felly, beth?
 

 

Cwestiwn 9 – A yw’r cynnig hwn yn caniatáu i’r ALl gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 436A i wneud trefniadau i adnabod plant yn ei ardal sydd o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt yn cael addysg addas?
 

 

Cwestiwn 10 – Er mwyn nodi pa mor effeithiol yw’r gronfa ddata bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ALlau gyflwyno datganiad blynyddol ar nifer y plant y maent wedi’u hadnabod drwy ddefnyddio’r gronfa ddata nad oeddent yn hysbys i ALlau yn flaenorol. Beth fyddai’r adeg fwyaf priodol a rhesymol i ofyn am hyn?
 

 

Cwestiwn 11 – A fyddai cronfa ddata wirfoddol o bob plentyn o oedran ysgol statudol sy’n preswylio fel arfer yn ardal ALl yn helpu ALlau i gyflawni eu dyletswydd o dan adran 436A, yn eich barn chi?

 
Cwestiwn 12 Beth fyddai manteision ac anfanteision datgelu’r data gofynnol i boblogi’r gronfa ddata, os o gwbl, yn eich barn chi? Cwblhewch yr adran sy’n berthnasol i chi.

i) Rhieni/gofalwyr

 

ii) Plant a phobl ifanc

 

iii) Byrddau iechyd lleol

 

iv) Ysgolion annibynnol

 

v) ALlau

 

vi) Arall