Diben y ffurflen hon yw rhoi gwybod i ni eich bod yn trosglwyddo'r cyfan neu ran o drwydded gweithgarwch perygl llifogydd bresennol.  Dylid defnyddio'r ffurflen hon lle rydych yn ein hysbysu ni am newid yn neiliad y drwydded yn unig, h.y. lle na fydd unrhyw newid yn y gweithgareddau yr ymdrinnir â hwy gan y drwydded.

Fel deiliad trwydded bresennol, rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon.

Byddwn yn cysylltu â deiliad y drwydded newydd unwaith y bydd y ffurflen hon wedi'i chyflwyno.