Iaith:

Ymgynghoriad ar y trothwyon incwm ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion

 

C1. A ydych yn cytuno â'r bwriad polisi i uwchraddio'r trothwyon enillion a ddefnyddir i bennu'r symiau y gellir eu didynnu trwy orchymyn dyled?  Rhowch resymau am eich ymateb.

 

C2. A ydych yn cytuno bod y dull gweithredu arfaethedig o uwchraddio'n dull gweithredu priodol ar gyfer pennu'r cyfraddau terfynau enillion newydd?  Rhowch resymau am eich ymateb.

 

C3. Pa mor aml rydych yn credu y dylai'r trothwyon enillion gael eu huwchraddio? Rhowch resymau am eich ymateb.

 

C4. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r polisi arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C5. Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C6. Os hoffech godi unrhyw bwyntiau am y mater hwn, manteisiwch ar y cyfle hwn i'w cofnodi yma.