Iaith:

Dyfodol y Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant

 

C1. A ydych o'r farn bod y ddogfen hon yn crynhoi'r prif faterion y dylid eu hystyried mewn perthynas â'r rhaglen ariannu hon? Amlinellwch unrhyw faterion sydd ar goll yn eich barn chi neu y mae angen rhoi sylw pellach iddynt?

 

C2. Ydych chi'n cefnogi'r cynnig ar gyfer rhaglen hirach, 5 mlynedd? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

 

C3. A fyddech yn fodlon bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid craidd ar gyfer rhai sefydliadau cydraddoldeb strategol? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

 

C4. Ydych chi'n cefnogi parhau â'r gwasanaethau presennol ar gyfer grwpiau penodol? A oes unrhyw wasanaethau eraill y dylid eu cynnwys yn y ddarpariaeth hon yn eich barn chi? Os na, eglurwch eich rhesymau'n gryno.

 

C5. Beth ddylai'r cydbwysedd fod rhwng gwasanaethau wedi’u caffael, cyllid craidd a phrosiectau a ariennir gan grantiau? Sut fyddech chi'n rhannu'r gyllideb (£1.6miliwn ar hyn o bryd) rhwng y meysydd hyn?

 

C6. Ydych chi'n cytuno y dylai'r cyllid hwn gyd-fynd â'r am canion a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 Llywodraeth Cymru?

 

C7. Ydych chi'n credu y dylid neilltuo rhywfaint o'r cyllid i gefnogi camau gweithredu cydraddoldeb ehangach a chydweithio rhwng sefydliadau cydraddoldeb?

 

C8. Ydych chi'n cytuno y dylai'r cyllid hwn gyd-fynd â'n cynlluniau cydraddoldeb penodol fel y Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb Rhywiol, Cydraddoldeb Hiliol ac LGBT+?

 

C9. Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

 

C10. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid trefnu neu newid y dull polisi arfaethedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu mwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

 

C11. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, ddefnyddiwch y blwch hwn i'w nodi.