Ry’ ni eisiau clywed eich barn.
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg Strategol a fydd yn nodi sut y byddwn yn cefnogi athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi dysgwyr yn ein hysgolion yn y blynyddoedd i ddod. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi y bydd y cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:
- Cefnogi ein gweithlu i sicrhau addysgu a dysgu o safon i wella deilliannau i ddysgwyr
- Mynd i'r afael â materion llwyth gwaith
- Ymateb i heriau newydd i weithlu'r ysgol a sicrhau mynediad at gymorth drwy weithlu arbenigol
- Sicrhau bod addysgu, arweinyddiaeth a swyddi staff cymorth yn parhau i fod yn llwybrau gyrfa deniadol
Bydd llesiant staff yn ystyriaeth allweddol ym mhob un o'r pedwar maes.
Gallwch ddarllen mwy yma: Datganiad Ysgrifenedig: Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg (3 Medi 2025) | LLYW.CYMRU
Rydym yn awyddus i gasglu eich barn trwy’r arolwg byr hwn a fydd yn casglu gwybodaeth am feysydd allweddol sy'n effeithio arnoch chi a'ch rôl, gan gynnwys eich lles, eich llwyth gwaith, y gefnogaeth sydd ar gael i chi a'ch barn am yr hyn a allai newid. Bydd yn ein helpu i osod y cyfeiriad polis ar gyfer y dyfodol a llunio'r camau y byddwn yn eu cymryd gyda'n partneriaid allweddol.
Mae'r arolwg yn ddienw ac ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i'w gwblhau. Bydd yn aros ar agor tan 28 Tachwedd 2025.
Os ydych chi'n rhan o'r gweithlu arbenigol, cwblhewch arolwg ar wahân sydd ar gael yma