Nid oes angen trwydded cwympo coed am bob prosiect cwympo coed.

Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch a chanfod yr hyn sydd angen ei ystyried cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.


Gwybodaeth am goed Llarwydd
Ni ellir archwilio coed llarwydd am Phytophthora ramorum rhwng 30 Medi a 1 Ebrill. Ar ôl 1 Ebrill, dylech anfon e-bost at trwyddedcwympocoed@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk yn gofyn am ymweliad safle er mwyn i ni allu archwilio’ch coed llarwydd. Rhaid i’ch e-bost gynnwys y canlynol:
  • Eich enw a’ch gwybodaeth gyswllt
  • Gyda phwy ddylen ni gysylltu os oes angen hysbysiad o’n hymweliad
  • Manylion codau unrhyw gatiau neu allweddi y mae eu hangen i fynd i mewn i’r coetir
  • Manylion unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch, e.e. gwaith mwyngloddio, cŵn, da byw, meysydd saethu lleol, ayb.
  • Manylion unrhyw faterion eraill y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, e.e. peidio ag ymweld ar ddydd Mercher
  • Map o’r adran(nau) yr hoffech eu cwympo, yn dangos lleoliad y coed llarwydd. Gallwch farcio’r ardaloedd hyn gydag 
  • Cyfeirnod grid ar gyfer y pwynt mynediad i’r adran honno a chyfeirnodau grid ar gyfer lleoliad y coed llarwydd
  • Arwynebedd yr adran, a chanran yr adran sy’n cwmpasu coed llarwydd
Bydd y Tîm Trwyddedu’n cysylltu â chi gyda’r canlyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth mae angen i chi wneud nesaf.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Rydym yn argymell y dylech gael cyngor a chydsyniad SoDdGA cyn cyflwyno’ch cais am drwydded cwympo coed.


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am goed llarwydd ar ein gwefan