Ymgynghoriad ar ganllaw anstatudol yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Cwestiwn 1 – A ydych chi’n cytuno â’r angen i adolygu’r polisi sy’n ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth o’r Gymraeg?
Cwestiwn 2 – A ydy’r newidiadau sy’n cael eu cynnig yn annog ac yn cefnogi ysgolion i gynyddu maint eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg?
Cwestiwn 3 – A ydyn ni’n cyflawni ein nod polisi o gyflwyno categorïau ar gyfer ysgolion sy’n fwy eglur ar gyfer:
Cwestiwn 4 – A ydych chi’n cytuno:
(a) â’r defnydd o rifau i gategoreiddio?
(b) â chael llai o gategorïau ond disgrifiadau ehangach?
(c) â rhoi mwy o ffocws ar ddisgrifiadau deilliannau ieithyddol i bob categori?
(d) â chyflwyno is-gategorïau i hwyluso cyfnod trosiannol?
(e) â’r dull o wahaniaethu rhwng categoreiddio darpariaeth ysgolion cynradd ac uwchradd?
Cwestiwn 5 – Wrth gyfeirio at ganrannau yn y categorïau uwchradd, a ddylem gynnwys:
(a) canran isafswm yn unig?
(b) ystod canran isafswm ac uchafswm?
Cwestiwn 6 – A oes angen i ni gyhoeddi canllawiau ychwanegol wedi'u teilwra tuag at grwpiau penodol, er enghraifft ysgolion a rhieni/gofalwyr, yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau hyn yn derfynol?
Cwestiwn 7 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r Canllaw categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:
i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?
Cwestiwn 8 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y canllaw arfaethedig:
i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 9 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.