Iaith:

Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru

 

C1. Ydych chi’n ‘berson cyfrifol’ at ddibenion Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005?

 

C2a. A ydych yn rhagweld unrhyw anawsterau neu rwystrau i bersonau cyfrifol wrth gyflawni’r dyletswyddau newydd a amlinellir yn yr ymgynghoriad, o fis Hydref 2023 ymlaen?

 

C2b. Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’, eglurwch beth yn eich barn chi yw’r anawsterau hynny a beth, yn eich barn chi, fyddai amserlen resymol ar gyfer rhoi’r rhain mewn grym. 

 

C3. Oes gennych chi unrhyw farn am yr hyn a olygir wrth asesydd risg tân cymwys a’r mathau o gymwysterau y byddai eu hangen arnynt i fod yn gymwys?

 

C4. Oes gennych chi unrhyw farn ynghylch pryd y dylem ddechrau’r gofyniad bod unrhyw un a benodir i gynnal asesiad risg tân yn berson cymwys?

 

C5. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r cynnig yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar
gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

 

C6. Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn: cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

 

C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma: