Iaith:

Ymgynghoriad ar fireinio'r Strategaeth Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022 i 2026

 
Mae croeso i chi ymateb i unrhyw un o'r cwestiynau yn y ddogfen hon. Mae cwestiynau 1-8 yn gofyn am adborth cyffredinol ar ein dull gweithredu ac mae cwestiynau 9-10 yn fwy manwl. Efallai y bydd y cwestiynau hyn yn fwy perthnasol ichi os ydych yn weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

C1. Rydym wedi nodi ein prif flaenoriaethau yn yr Amcanion. Ydych chi o'r farn mai dyma'r blaenoriaethau cywir?

 

C2. Ydych chi o'r farn mai'r dull gweithredu cyffredinol y byddwn yn ei ddefnyddio, fel y nodir yn yr adrannau ar y Glasbrint, yw'r un cywir i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?

 

C3. Rydym wedi nodi'r egwyddorion sy'n sail i'r Strategaeth Genedlaethol ddrafft. Ydych chi'n cytuno â'r rhain?

 

C4. Ydych chi’n cytuno â ein blaenoriaethau uniongyrchol?

 

C5. Beth yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn eich barn chi?

 

C6. Ydych chi o'r farn bod unrhyw beth y dylem fod yn ei wneud fel rhan o'r Strategaeth hon a all gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg?

 

C7. A oes unrhyw beth arall y dylem fod yn ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eich barn chi, neu oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

 

C8. Sut y dylem fesur cynnydd a llwyddiant wrth gyflawni'r pethau a amlinellir yn y Strategaeth hon?

 
Mae'r cwestiynau sy'n weddill yn fwy manwl:

C9. Ydych chi'n cytuno â chwmpas y Strategaeth?

 

C10. Rydym wedi cynnig trefniadau llywodraethu, sy'n cynnwys gweithio gyda sefydliadau partner allweddol a nifer o is-grwpiau/ffrydiau gwaith, i fynd i'r afael â materion penodol. Ydych chi o'r farn y bydd cydweithio yn y ffordd hon yn helpu i gydgysylltu'r gwaith o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn well?

 

C11. Ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?