Cais am drwydded i ladd, dal, aflonyddu ar anifeiliaid gwyllt neu fod ag anifeiliaid gwyllt (neu’u deilliadau) yn eich meddiant dros dro ar gyfer gwyddoniaeth neu addysg, cadwraeth, modrwyo neu farcio, neu ddiogelu casgliad sŵolegol neu ffotograffiaeth.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Fel y'I Diwygiwyd) neu Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Mae hon yn ffurflen gais ar gyfer:
  • rhywogaethau a restrir o dan Atodiad IV o Gyfarwyddeb Cyngor 92/43/EEC ar Warchod cynefinoedd naturiol a phlanhigion ac anifeiliaid gwyllt,
  • rhywogaethau a restrir o dan Atodlen 5 a 6 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).
Yn ddibynnol ar y rhywogaethau cysylltiedig, ceir dyroddi trwyddedau o dan Adran 16 (3) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, a/neu Rheoliad 55 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Nid yw'r ffurflen gais hon yn cwmpasu:
  • Rhywogaethau ystlumod
  • Meddiant parhaol
Os hoffech chi wneud cais am drwydded ystlumod, neu gais i feddu ar anifeiliaid gwyllt (neu ddeilliadau anifeiliaid gwyllt) yn barhaol, defnyddiwch y ffurflen gais briodol sydd ar gael ar ein gwefan (bydd yn agor mewn tab newydd).