Iaith:

Categorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg

 

Beth yw eich barn ar ein cynigion i rai aelodau o staff sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA)?

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno y dylid ehangu'r trefniadau cofrestru i gynnwys rhai aelodau o staff sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol?

 

Cwestiwn 2: A yw'r disgrifiad o ‘waith penodedig’ yn rheoliad 17 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 yn ddigon eang i gwmpasu rolau a chyfrifoldebau staff addysgu mewn ysgolion annibynnol?
 

 

Cwestiwn 3: Gan edrych ar y rhestr ganlynol o rolau, a oes unrhyw rolau eraill o fewn ysgolion annibynnol y dylid eu cynnwys yn y categori athro ysgol?
  • Staff addysgu llawn amser
  • Staff addysgu rhan amser
  • Y sawl sy'n gyfrifol am arwain y dysgu yn yr ysgol, er enghraifft pennaeth neu berchennog
  • Staff cyflenwi: a drefnir drwy asiantaeth neu fel arall
  • Staff addysgu peripatetig – er enghraifft athrawon cerdd a chwaraeon
  • Staff addysgu ymgynghorol sy'n treulio rhan o'u hamser yn addysgu, gan gynnwys cyswllt uniongyrchol heb oruchwyliaeth â dysgwyr
  • Tiwtoriaid yn y cartref a gyflogir i addysgu dysgwyr na allant fynychu'r ysgol yn rheolaidd
  • Unrhyw aelodau eraill o staff a all fod yn cyflawni rolau eraill mewn ysgol, yn ychwanegol at addysgu: er enghraifft rhiant tŷ, cynghorydd gyrfaoedd, tiwtoriaid

 

Cwestiwn 4: A yw'r disgrifiad canlynol yn ddigon eang i gwmpasu holl rolau a chyfrifoldebau gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol? 

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol yw’r rhai sy’n cefnogi athrawon ysgol i:
  • gynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer dysgwyr
  • cyflwyno gwersi i ddysgwyr (gan gynnwys trwy ddysgu o bell a thrwy dechnegau rhithwir)
  • asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr
  • adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr

 

Cwestiwn 5: A yw'r rhestr hon yn cwmpasu'r holl rolau mewn ysgolion annibynnol y dylid eu cynnwys yn y categori cymorth dysgu?
  • Cynorthwyydd addysgu
  • Cynorthwyydd dosbarth
  • Cynorthwyydd cymorth dysgu
  • Cynorthwyydd addysgu lefel uwch
  • Cynorthwyydd anghenion arbennig/ychwanegol
  • Cynorthwyydd cymorth dwyieithog
  • Cynorthwyydd bugeiliol/lles
  • Cynorthwyydd cymorth
  • Tiwtoriaid (preswyl a dibreswyl)
  • Cynorthwywyr blynyddoedd cynnar
  • Hyfforddwyr
  • Goruchwylydd cyflenwi
  • Technegwyr
  • Anogwyr dysgu

 

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, a oes unrhyw grwpiau eraill o staff a gyflogir mewn lleoliadau addysg annibynnol y dylid ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru â'r CGA?

 

Cwestiwn 7: Ychwanegwch unrhyw sylwadau eraill ar ein cynigion i'w gwneud yn ofynnol i staff ysgolion annibynnol gofrestru.