Iaith:

Ymgynghoriad ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: canllawiau statudol ar safonau ymddygiad

 

C1. A yw'r canllawiau drafft yn esbonio’n glir yr hyn a ddisgwylir gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau, fel y’i nodir yn narpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), mewn ffordd y gall aelodau grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau ei deall?
Os nad ydynt, pam?

 

C2. A yw'r canllawiau drafft yn esbonio’n glir yr hyn a ddisgwylir gan Bwyllgorau Safonau mewn prif gynghorau, fel y'i nodir yn darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mewn ffordd y gall Pwyllgorau Safonau ei deall?
Os nad ydynt, pam?

 

C3. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 
Pa effeithiau fyddai yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

C4. Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gallai’r canllawiau gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

 

C5. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch ymateb isod i fynegi eich barn.