Iaith:

Ymgynghoriad ynghylch newidiadau i gynlluniau pensiwn diffoddwyr tân yng Nghyru 2020

 

C1. I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y rheoliadau drafft yn cyrraedd y nod o gydraddoli buddion goroeswr ar gyfer goroeswyr partneriaethau sifil a phriodasau i gyplau o’r un rhyw?

 

C2. A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw faterion cydraddoldeb sydd heb gael sylw yn y fan hon?

 

C3. A oes gennych farn arall am y newidiadau sydd yn y rheoliadau drafft?

 

C4. A ydych chi'n cytuno bod y newidiadau sydd yn y rheoliadau drafft yn cydymffurfio’n llwyr â dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos McLaughlin?

 

C5. A ydych chi'n ymwybodol o unrhyw faterion cydraddoldeb sydd heb gael sylw yn y fan hon?

 

C6. A oes gennych farn arall am y newidiadau sydd yn y rheoliadau drafft? 

 

C7. A allwch chi ragweld unrhyw heriau i'r gwaith o weinyddu’r cynlluniau pensiwn o ran y rheoliadau drafft arfaethedig?

 

C8. Mae gennym ddiddordeb mewn deall a fydd y cynigion sydd yn y ddogfen ymgynghori hon yn cael effaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Dyma'r nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. A ydych chi o'r farn y bydd y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig.  Os ydych chi, pa un neu rai, a pham/pam ddim?

 

C9. Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effaith y byddai’r cynigion uchod yn ei chael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Pa effeithiau allai hyn eu cael?  Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol? 

 

C10. Hefyd, esboniwch sut rydych yn credu y gallai’r polisi arfaethedig gael ei ffurfio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

 

C11. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle hwn i'w nodi.