Iaith:

Trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar

 

C1. Pa mor effeithiol y mae'r defnydd o bremiymau wedi bod o ran mynd i'r afael â materion tai?

 

C2. Sut y gallai awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o bremiymau er mwyn helpu i sicrhau bod eiddo gwag neu eiddo nas defnyddir ddigon yn cael ei ddefnyddio unwaith eto er mwyn gwella'r cyflenwad o dai a chynaliadwyedd cymunedau lleol?

 

C3. A oes gennych farn ynglŷn â sut y dylid defnyddio arian a godir drwy'r premiwm? Er enghraifft, a ddylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol fod yn fwy tryloyw ynghylch y ffordd y mae arian a godwyd drwy'r premiwm wedi'i wario?

 

C4. A yw'r uchafswm premiwm uchaf, sef 100%, yn briodol? Os nad ydyw, beth fyddai'n briodol ac yn deg, yn eich barn chi? 

 

C5. Pe bai uchafswm premiwm uwch yn cael ei gynnig, a ddylid ei gyflwyno'n raddol?

 

C6. Beth yw effeithiau, cadarnhaol a negyddol, lety hunanddarpar, yn eich barn chi?

 

C7. Beth yw eich barn am y meini prawf a'r trothwyon presennol ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar y mae'n rhaid talu ardrethi annomestig arno?

 

C8. Yn eich barn chi, a ddylid newid y trothwyon ar gyfer llety hunanddarpar ac, os felly, pam?

 

C9. Pe bai trothwyon llety hunanddarpar yn cael eu newid, beth ddylai'r trothwyon newydd fod, yn eich barn chi?

 

C10. Beth yw eich barn am gymhwysedd llety hunanddarpar i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach?

 

C11. A ydych yn credu y gellid defnyddio’r system drethu leol mewn unrhyw ffyrdd eraill i gefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau?

 

C12. Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

 

C13. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C14. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.