Iaith:

Rôl awdurdod cyhoeddi ar gyfer fframweithiau prentisiaethau Cymru

 

1. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai rôl yr Awdurdod Cyhoeddi ar gyfer cyhoeddi Fframweithiau Prentisiaethau yng Nghymru i’r dyfodol yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol am y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac am drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg. 
 
Yn eich barn chi, pa effeithiau y byddai hyn yn eu cael?  Sut gellir cynyddu’r effeithiau positif, neu liniaru’r effeithiau negyddol? 
 

 

2. Esboniwch hefyd sut yn eich barn chi y gallai’r polisi gael ei ffurfio neu ei newid fel ei fod yn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg, ac fel na fyddai’n cael dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg. 

 

3. A ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r pŵer neu pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i sicrhau bod y corff sy’n llunio fframweithiau a’r Awdurdod Cyhoeddi yn gwbl ddiduedd wrth gyflawni eu rolau?

 

4. Pa broses a meini prawf y dylid eu defnyddio wrth gyhoeddi fframwaith?

 

5. Beth yw’r disgwyliadau ar yr awdurdod cyhoeddi wrth gyhoeddi fframwaith?

 

6. ​Pa fesurau ansawdd a chydymffurfiaeth ddylai fod ar waith wrth gymeradwyo, ardystio a chyhoeddi fframwaith, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys?

 

7. A ddylai’r Awdurdod Cyhoeddi roi ar waith unrhyw fesurau ychwanegol i sicrhau bod y fframwaith yn bodloni anghenion cyflogwyr a dysgwyr?
 

 

8. A oes unrhyw sylwadau ychwanegol yr hoffech i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol ohonynt o safbwynt yr ymgynghoriad hwn?

 

9. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw’n benodol iddynt, defnyddiwch y gofod hwn i’w nodi: