Iaith:

Cynllun gweithredu LHDTC+

 

C1. A ydych chi'n meddwl y bydd y Cynllun Gweithredu yn gwella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ a beth ddylai'r blaenoriaethau fod yn eich barn chi?

 

C2. A ydych chi'n cytuno â'r nodau cyffredinol? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu neu'n ei ddileu mewn perthynas â'r nodau cyffredinol?

 

C3. A ydych yn cytuno â'r camau gweithredu sy’n cael eu cynnig? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu neu'n ei ddileu mewn perthynas â'r camau gweithredu?

 

C4. Beth yw'r prif heriau a allai atal y nodau a'r camau rhag cael eu cyflawni?

 

C5. Pa adnoddau (gallai hyn gynnwys cyllid, amser staff, hyfforddiant, mynediad at wasanaethau cymorth neu wasanaethau eiriolaeth ymhlith pethau eraill) a fydd yn angenrheidiol yn eich barn chi wrth gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a amlinellir?

 

C6. A ydych chi'n teimlo bod y Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn ymdrin yn ddigonol â chroestoriadedd LHDTC+ â nodweddion gwarchodedig eraill, megis hil, crefydd neu gred, anabledd, oedran, rhywedd, a phriodas a phartneriaeth sifil? Os nad ydych yn teimlo ei fod yn gwneud hynny, sut y gallwn wella hyn?

 

C7. Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 
Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

 

C8. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C9. Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd, ac mae trafodaethau ynghylch iaith a hunaniaeth wedi dangos y dylid defnyddio'r acronym LHDTC+. Mae hyn yn sefyll am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwiar/cwestiynu, gyda'r + yn cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill. O ganlyniad, rydym yn cyfeirio at bobl LHDTC+ yn y Cynllun. 
Beth yw eich barn am y term hwn ac a oes dewis amgen y byddai'n well gennych? Efallai y bydd siaradwyr Cymraeg am ystyried terminoleg addas yn y ddwy iaith.