Cadarnhad a phresenoldeb

Anfonir ddolen ichi gael mynediad i'r sesiwn ar Zoom erbyn 5pm fan bellaf ar diwrnod cyn y sesiwn.

Os nad ydych wedi'i dderbyn ar ôl yr amser yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Dysgu gyda e-bost AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru. Ni roddir tystysgrifau ar gyfer y cwrs. Mae’n gyfrifoldeb i glerc y bwrdd llywodraethu gadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â phwy sydd wedi cwblhau hyfforddiant.

Canslo eich archeb

Os ydych wedi archebu lle ar gyfer un o’n sesiynau llywodraethwyr ond ni allwch fynychu bellach, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Dysgu cyn gynted â phosib gyda e-bost AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru

Os oes rhaid i ni ganslo sesiwn

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y cyrsiau yn rhedeg fel y bwriadwyd. Bydd sesiynau lle mai dim ond nifer fach o lywodraethwyr sydd wedi cofrestru ar eu cyfer yn cael eu hail-drefnu. Bydd sefyllfaoedd yn codi o ganlyniad i amgylchiadau sydd allan o’n rheolaeth lle bydd rhaid canslo, aildrefnu neu newid lleoliad cyrsiau. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn i’ch hysbysu o unrhyw newidiadau.

Gwerthuso

Bydd ffurflen werthuso ar gyfer y cwrs yn cael ei rhoi i chi ar ôl i chi gwblhau’r cwrs at ddibenion dadansoddiad mesurol ac ansoddol. Fel Gwasanaeth Dysgu, rydym bob amser yn adolygu ein gwaith. Bydd eich adborth yn ein cynorthwyo i wella ansawdd gwasanaethau i ysgolion, i fesur effaith ein sesiynau, i gynyddu ymgysylltiad llywodraethwyr ac i annog presenoldeb. 

Datganiad diogelu data

Bydd gwybodaeth ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n electronig a bydd yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn unig er mwyn archebu cyfranogwyr ar sesiynau hyfforddi perthnasol fel rhan o Raglen Ddatblygu'r Llywodraethwyr 2022/23.

Rydym o'r farn bod eich preifatrwydd yn bwysig a bydd y Cyngor yn prosesu'ch data personol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Polisi Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor, gan gynnwys gwybodaeth am eich hawliau diogelu data, ar gael ar ein gwefan.

1. Enw cyntaf *

 

2. Cyfenw *

 

3. Rôl *

 

4. Cyfeiriad e-bost Hwb

Mae cyfrifon Hwb ar gael i lywodraethwyr mewn ysgolion yng Nghymru a ariennir gan y llywodraeth. Gall yr hyrwyddwr digidol yr ysgol drefnu cyfrif ar eich cyfer. Os nad ydych yn gwybod pwy yw hyrwyddwr digidol yr ysgol, cysylltwch gyda phrifathro'r ysgol.

Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost Hwb - rhowch gyfeiriad e-bost arall yma os gwelwch yn dda. *

 

5. Eich ysgol *

 

6. Sesiynau

Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal yn rhithiol trwy Zoom. Dewisiwch y sesiynau yr hoffech chi fynychu. Bydd ebost yn cynnwys linc i Zoom yn cael ei gyrru i chi y diwrnod cyn y sesiwn.

 

7. Oes angen cyfieithydd arnoch chi? *

 
Defnyddiwch y botwm 'Cyflwyno' i anfon eich ffurflen atom.